Codwr Pŵer yn dychwelyd adref i Sir Benfro gyda phedair medal aur

ITV Cymru 26/06/2023
bleddyn gibbs.png

Mae codwr pŵer “eithriadol”, a ennillodd bedair medal aur yn Ngemau Olympaidd Arbennig yr Almaen 2023, wedi cael croeso mawr wrth iddo ddychwelyd adref i Sir Benfro.

Fe ddychwelodd Bleddyn Gibbs, 18, i bentref Thornton, ac yno i'w groesawu roedd ei deulu, ffrindiau, hyfforddwyr a’i dîm rygbi lleol Pembrokeshire Vikings.

“Mae pawb yn falch iawn. Rhoddodd gwtsh i bawb wnaeth ddod” dywedodd y Pembrokeshire Vikings ar eu cyfryngau cymdeithasol.

Mae Bleddyn yn un o chwech o athletwyr o Gymru a fu’n cymryd rhan yn y gemau.

Dywedodd Colin Dyer, Prif Weithredwr Gemau Olympaidd Arbennig Prydain Fawr: “Rydym ni mor hapus dros Bleddyn. Mae hyn yn llwyddiant rhyfeddol gan berson ac athletwr eithriadol.

“Mae dod adref gyda medalau yn gyflawniad anhygoel."

Mae bron i 80 athletwr yn nhîm Olympaidd Prydain Fawr ac mae cyfanswm o 190 o wledydd yn cystadlu mewn 26 camp.

Dyma’r tro cyntaf i’r gemau gael eu cynnal yn yr Almaen. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.