Mam i ferch ifanc fu farw mewn tân ger Crymych 'mewn poen cyson'
Mae mam i ferch ifanc fu farw mewn tân tŷ ger Crymych yn dweud ei bod mewn "poen cyson".
Bu farw Alysia Salisbury, oedd yn bump oed, yn y tân yn ei chartref yn ardal Pontyglasier rhwng Crymych ac Eglwyswrw dair wythnos yn ôl.
Mewn cyfweliad gyda Sky News, dywedodd Tara Salisbury nad oedd unrhyw eiriau'n bodoli i ddisgrifio'r golled yr oedd yn ei theimlo yn dilyn marwolaeth ei merch.
Y gred yw fod y tân wedi dechrau yn llofft un o chwiorydd Alysia.
Wrth siarad gyda Sky, dywedodd Ms Sailsbury na fyddai ei merch wedi bod yn ofnus o'r tân o achos ei hawtistiaeth.
"Roedd hi bron yn chwech oed ond oherwydd y ffordd yr oedd hi, pan ddechreuodd y tân fe fyddai hi wedi eistedd yn hapus wedi ei rhyfeddu ganddo," meddai.
“Fyddai hi ddim wedi gwneud unrhyw sŵn, ni fyddai wedi rhybuddio unrhyw un, ni fyddai wedi rhedeg.
"Byddai hi ddim ond yn eistedd yn hapus yn ei wylio wrth iddo ymledu."
Yn dilyn y farwolaeth fe wnaeth y gymuned yn lleol gasglu arian a nwyddau i'r teulu.
Bellach mae £20,000 o gymorth wedi ei gasglu a'r cais am nwyddau wedi dod i ben yn dilyn ymateb "aruthrol" gan y gymuned yn lleol.
Mae disgwyl i’r rhoddion fynd tuag at gostau angladd Alysia yn ogystal â hanfodion i’r teulu wedi i’w holl eiddo gael eu dinistrio yn y trychineb.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i achos y tân.
Agorwyd cwest i farwolaeth Alysia ar 9 Mehefin ac mae wedi ei ohirio tan 12 Hydref.