Dot Davies a James Williams yn gyflwynwyr newydd ar Radio Wales
Mae BBC Radio Wales wedi cyhoeddi mai Dot Davies a James Williams yw cyflwynwyr newydd rhaglen frecwast yr orsaf.
Bydd Dot, sydd yn cyflwyno Y Byd ar Bedwar, a James, gohebydd gwleidyddol i BBC Cymru a Newyddion S4C, yn cyflwyno’r rhaglen frecwast am 07.00 bob bore o fis Mehefin ymlaen.
Fe fydd Claire Summers yn parhau i ddarlledu’r rhaglen frecwast am y tro, cyn symud i gyflwyno rhaglenni eraill yn y dyfodol.
Dywedodd Dot Davies: “Mae’n anrhydedd i fod mewn swydd ble alla’i rannu’r newyddion diweddaraf i Gymru a thu hwnt.
"Y gobaith yw y bydd ein gwrandawyr yn camu allan o’u drws yn ymwybodol o beth sydd yn digwydd yn y byd, ac wedi eu diddanu, gobeithio, wrth iddyn nhw baratoi am y diwrnod o’u blaenau.”
Dywedodd James Williams: “Mae’r holl beth yn gyffrous iawn.
"Am fraint yw e i gyflwyno’r rhaglen frecwast. Rydw i’n edrych ymlaen at gyfrannu a datblygu syniadau gyda’r tîm ar gyfer y rhaglen newydd.”
Fel rhan o’r newidiadau, bydd rhaglen ganol bore Wynne Evans yn symud i rhwng 09.00 a 12.00.
Bydd y rhaglen ‘Phone-in’ yn parhau dros ginio rhwng 12.00 a 14.00, gyda Jason Mohammad yn cyflwyno o ddydd Llun i ddydd Mercher, ac Oliver Hides ddydd Iau a Gwener.
Bydd rhaglen Behnaz Akhgar yn parhau i gael ei ddarlledu am 14.00, gyda rhaglen Radio Wales Drive am 16.00.