Comisiwn trafnidiaeth newydd ddim am edrych eto ar bont newydd dros y Fenai

08/06/2023
Cyngor Môn - Pont Menai

Dyw comisiwn trafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru ddim wedi cynnwys pont newydd dros y Fenai ymysg yr opsiynau y maen nhw’n edrych arnyn nhw.

Ddydd Iau cyhoddodd Comisiwn Burns eu casgliadau ac argymhellion drafft sy’n canolbwyntio ar ddatblygu trafniodiaeth yng ngogledd Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Lee Waters ym mis Chwefror y byddai’r comisiwn yn edrych eto ar drydedd bont dros y Fenai yng nghyd-destun isadeiledd gogledd Cymru yn ei gyfanrwydd

Ond nid yw pont newydd wedi ei gynnwys ymysg yr opsiynau yn yr adroddiad ar gyfer gwella cysylltedd ar draws Afon Menai.

“Ar hyn o bryd, ac yn unol â’n dull o wneud i’r seilwaith sydd ar gael yn barod weithio’n well, barn y Comisiwn yw y gellir gwneud y pontydd presennol yn fwy cadarn, ac rydym yn edrych ar opsiynau ar sut i wneud hyn,” meddai'r adroddiad.

Parcio a theithio

Mae’r opsiynau sy’n cael eu hystyried yn cynnwys taflwyr gwynt ar Bont Britannia, gwasanaethau bws amlach yn cysylltu Ynys Môn a Gwynedd, ac ad-drefnu cyffyrdd yr A55 wrth ymyl Pont Britannia.

Ymysg yr opsiwynau eraill mae:

  • Tair lôn llif llanw neu redeg ar bont Britannia.
  • Darpariaeth ar gyfer teithio llesol ar Bont Britannia.
  • Blaenoriaeth ar gyfer teithio llesol ar Bont Menai.
  • Llwybrau teithio llesol parhaus o safon uchel ar ddwy ochr y Fenai sy’n cysylltu cymunedau â’r pontydd a’r prif gyrchfannau.
  • Cynllunio teithio mewn partneriaeth â sefydliadau mawr yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
  • Cynlluniau llogi beiciau, gan gynnwys e-feiciau.
  • Blaenoriaeth i deithio llesol a bysus ar y pontydd.
  • Gwasanaethau bws aml yn cysylltu Ynys Môn a Gwynedd.
  • Parcio a theithio ar y rheilffordd a’r bws gan gynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror na fydd trydedd bont ar gyfer cerbydau yn cael ei hadeiladu dros y Fenai.  

Ond wrth siarad ar Politics Wales yn ddiweddarach dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters eu bod nhw’n bwriadu edrych eto ar bont dros y Fenai.

“Dydan ni ddim yn gallu gosod o’r neilltu beth mae’r Adolygiad Ffyrdd wedi ei ddweud am y Fenai, ond mae angen ei ystyried o fewn cyd-destun ehangach,” meddai.

Ychwanegodd Lee Waters ar y pryd fod angen bod yn “bragmataidd” wrth ystyried isadeiledd gogledd Cymru.

“Dydyn ni ddim am fod yn ddogmataidd am hyn,” meddai.

“Mae Comisiwn Burns yn edrych ar y cyfan o goridor trafnidiaeth gogledd Cymru.

“Mae’r Adolygiad Ffyrdd wedi edrych ar y Fenai fel cynllun ar ei ben ei hun.

“Felly rydw i wedi dweud wrth yr Arglwydd Burns i edrych ar hyn o fewn cyd-destun gogledd Cymru yn ei gyfanrwydd a gwneud yn siwr mai dyma’r penderfyniad cywir.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.