Cyn weithiwr yn ddieuog o dwyllo Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin
Mae cyn weithiwr siop nwyddau Cymreig yng Nghaerfyrddin wedi ei ganfod yn ddieuog o ddwyn dros £11,000 o'r busnes dros gyfnod o ddwy flynedd.
Roedd Emyr Edwards yn dweud mai hawlio ei gyflog o Siop y Pentan yr oedd wedi ei wneud drwy’r taliadau ychwanegol rhwng 2017 a 2018.
Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth, dywedodd Llio Davies, o Siop y Pentan, mai Emyr Edwards oedd â "chyfrifoldeb llwyr” dros faterion ariannol y busnes yn 2017, wedi marwolaeth ei gŵr a chyd-berchennog y busnes, Andrew Davies.
Dywedodd mai Mr Edwards oedd y dewis naturiol i wneud hynny, gan ei fod wedi rheoli busnes yn y gorffennol, ac wedi gweithio i’r siop ers 2011.
Yn ôl Emyr Edwards, roedd y taliadau ychwanegol a wnaeth i’w gyfrif ei hun, ei frawd a chyfrifon eraill o gyfrif y busnes, yn gwneud yn iawn am gyflog oedd heb ei dalu iddo.