Newyddion S4C

Etholiad Iwerddon: Golygfeydd gwyllt wrth i Gerry 'The Monk' Hutch gyrraedd canolfan gyfri

gerry hutch.png

Roedd golygfeydd gwyllt yng nghanolfan gyfri Canol Dulyn brynhawn Sul wrth i'r ymgeisydd annibynnol Gerry “The Monk” Hutch gyrraedd i glywed canlyniad ei etholaeth yn Etholiad Cyffredinol Gweriniaeth Iwerddon.

Rhuthrodd aelodau o'r wasg a'r cyfryngau tuag at Gerry Hutch, gan ei ddilyn y tu mewn i'r ganolfan.   

Wrth ymateb i'r golygfeydd, dywedodd Mr Hutch: “Does yr un Guard (aelod o heddlu'r Garda) o amgylch pan ry'ch chi angen un".

Collodd Mr Hutch yn yr etholiad gyda 5321 o bleidleisiau. Marie Sherlock o'r Blaid Lafur gipiodd y sedd gyda 6102 o bleidleisiau.  

Roedd Mr Hutch wedi hawlio'r penawdau yn ystod yr ymgych, gan ei fod yn arweinydd honedig y gang troseddol Hutch. Roedd ganddo record droseddol hir cyn iddo droi'n 18 oed.

Ym mis Ebrill 2023 cafwyd Mr Hutch yn ddieuog gan y Llys Troseddol Arbennig o lofruddio dyn o'r enw David Byrne, yn un o'r ymosodiadau cyntaf rhwng gangiau Hutch a Kinahan a arweiniodd at farwolaeth.

Bu farw Mr Byrne, 33, ar ôl cael ei saethu chwe gwaith mewn digwyddiad yng Ngwesty’r Regency yn Nulyn ym mis Chwefror 2016.

Cyfri

Ar ôl i'r broses ddechrau fore Sadwrn, mae'r cyfri'n parhau yn Etholiad Cyffredinol Gweriniaeth Iwerddon. 

Mae'n ymddangos mai Fianna Fail sy'n debygol o sichrau'r nifer fwyaf o seddi, gyda'r dyfalu'n cynyddu pa blaid allai glymbleidio â nhw. 

Roedd y tair brif blaid Fianna Fail, Fine Gael a Sinn Fein yn hyderus pan gafodd y canlyniadau cyntaf eu cyhoeddi ddydd Sadwrn. 

Ond wrth i ganlyniadau rhagor o seddi gael eu cyhoeddi ddydd Sul, mae'n ymddangos yn fwy fwy tebygol mai clymblaid rhwng Fianna Fail a Fine Gael fydd yn dychwelyd i lywodraethu yng Ngweriniaeth Iwerddon. Ond gallai'r Blaid Lafur gael cynnig, wedi perfformiad addawol iddyn nhw hyd yn hyn.

Dyw hi ddim yn ymddangos fod Sinn Fein yn mynd i gael cynnig i glymbleidio a ffurfio llywodraeth newydd. 

Mae'r ddwy blaid sydd yn y canol dde, Fianna Fai a Fine Gael wedi dominyddu gwleidyddiaeth Gweriniaeth Iwerddon ers canrif. 

Fe wnaethon nhw rannu grym y tymor seneddol diwethaf ac mae'r ddwy blaid eisoes wedi dweud na fydden nhw'n fodlon llywodraethu gyda Sinn Fein.  

Bydd y cyfri yn parhau nos Sul ac mae disgwyl i'r canlyniadau olaf gael eu cyhoeddi yn ystod oriau mân fore Llun. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.