Pryder bod cymuned yn cael eu 'diystyru' yn dilyn llifogydd

Mae dioddefwyr llifogydd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dweud eu bod yn teimlo fel eu bod wedi cael eu "diystyru" gan lywodraeth y DU.
Daw'r gofidion ar ôl i gymuned Sgiwen glywed na fydd gweinidog yn ymweld â'r safle tan fis Awst, ar ôl i'r pentref ddioddef llifogydd ym mis Ionawr.
Dywedodd un o'r pentrefwyr wrth The National fod yr aros am ymweliad gan weinidog yn "warthus".
Yr wythnos diwethaf, felansiodd dioddefwyr y llifogydd ymgyrch 'Cyfiawnder i Sgiwen' (Justice for Skewen), gan alw ar yr Awdurdod Glo a llywodraeth y DU i "dderbyn atebolrwydd" am y drychineb, a thalu costau unrhyw golledion nad yw'n cael ei warchod gan yswiriant.
Darllenwch y stori'n llawn yma.