Newyddion S4C

Cyflwr 'torcalonnus' dementia ar gyn seren Coronation Street

Julie Goodyear

Mae gan gyn seren yr opera sebon Coronation Street, Julie Goodyear gyflwr 'torcalonnus' dementia, yn ôl datganiad gan ei gŵr. 

Mae'r actores 81 oed yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Bet Lynch, y tu ôl i far y Rovers Return.  

Cyhoeddodd ei gŵr Scott Brand ddatganiad ddydd Mercher yn nodi: “Mae fy annwyl wraig a finnau wedi gorfod dod i delerau â'r diagnosis torcalonnus hyn.

“Yn anffodus, mae Julie wedi bod yn anghofus ers cryn amser, ac rydym wedi bod yn cael cyngor meddygol a chefnogaeth. Ond rydym bellach yn gwybod nad oes modd dad-wneud y sefyllfa, ac mae ei chyflwr yn debygol o ddirywio yn gyflym.

"Gobeithio fod pobl yn deall" 

“Rydym wedi gwneud y penderfyniad i gyhoeddi hynny nawr, gan fod Julie yn dal i fod wrth ei bodd yn ymweld â ffrindiau a bwyta allan.  

“Mae cynifer yn ei hadnabod, a'i ffans yn cyffroi wrth ei chwrdd a hithau'n mwynhau cyfarfod â nhw. Ond mae hi yn medru drysu yn enwedig pan yn flinedig. Rwy'n gobeithio fod pobl yn deall."

Roedd Julie Goodyear yn un o hoelion wyth Coronation Street am dros 20 mlynedd. Gadawodd strydoedd Weatherfield yn 1995 a dychwelodd i'r gyfres am gyfnod byr wedi hynny.  

Mae hi wedi ymddangos mewn sawl cyfres arall ar y teledu, yn eu plith Celebrity Fit Club, Come Dine With Me a chyfres Stars In Their Eyes i enwogion.

Llun: Ian West/PA. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.