Newyddion S4C

Yr Arglwydd John Morris wedi marw yn 91 oed

05/06/2023

Yr Arglwydd John Morris wedi marw yn 91 oed

Mae'r Arglwydd John Morris wedi marw yn 91 oed. 

Roedd yr Arglwydd Morris yn gyn Aelod Seneddol Llafur Aberafan, gan gynrychioli'r etholaeth yn San Steffan o 1959 i 2001. 

Yn frodor o Sir Aberteifi, derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg Gonville a Caius yng Nghaergrawnt. 

Roedd hefyd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru o 1974 i 1979, yn ogystal â'n Dwrnai Cyffredinol ac yn Ysgrifennydd Amddiffyn. 

Bu'n amlwg yn yr ymgyrch dros ddatganoli.  

Yn ystod ei gyfnod fel AS, fe wasanaethodd o dan dri Phrif Weinidog Llafur, sef Harold Wilson, James Callaghan a Tony Blair. 

'Diolch'

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd y darlledwr Huw Edwards ei fod yn un o "Gymry mwyaf nodedig ei gyfnod" ac yn "un o dadau datganoli".

Dywedodd Y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, ei bod yn drist o glywed bod yr Arglwydd John Morris wedi marw.

"Cynrychiolodd etholaeth Aberafan am 41 mlynedd fel Aelod Seneddol gan wasanaethu fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Thwrnai Cyffredinol," meddai.

"Fe oedd yr unig aelod yn weddill o gabinet Harold Wilson. Diolch am dy wasanaeth, gorffwys mewn hedd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.