Newyddion S4C

Cyhoeddi enillwyr Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc a Medal Gelf Eisteddfod yr Urdd 2023

S4C

Llyr Evans o Ynys Môn yw enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Lara Rees o Abertawe yw enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.

Cyflwynir Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc, gwerth £2000 drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a’i deulu, am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng Bl.10 ac o dan 25 oed. Cyflwynir y Fedal Gelf ar gyfer y gwaith mwyaf addawol yn y categori oedran blwyddyn 10 ac o dan 19 oed, ac fe’i rhoddir eleni gan Merched y Wawr Rhanbarth Caerfyrddin.

Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc
 

Image
newyddion
Llyr Evans o Ynys Môn yn enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc.

 Daeth naw cais i law Rhys Padarn Jones ag Alis Gwyther, beirniaid y gystadleuaeth eleni.

Cyflwynodd Llyr gasgliad o bortreadau sy’n cyfuno elfennau o’r byd ffasiwn a dogfen gan ddefnyddio prosesau analog a digidol i’r gystadleuaeth eleni. 

Dechreuodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth yn Ysgol Syr Thomas Jones wedi anogaeth gan ei athrawes Mrs Mandy Roberts, ac yn ei eiriau ei hun “hi ydi’r rheswm rwy’n tynnu lluniau heddiw”. Wedi astudio celf yng Ngholeg Menai, aeth ymlaen i Lundain i astudio Cyfathrebu Ffasiwn ag Hyrwyddo yn ‘Central Saint Martins’.  

 Wrth drafod y gwaith buddugol, dywedodd y beirniaid: “Roedd yn amlwg o’r dechrau mai pobl a phersonoliaethau oedd deunydd crai Llyr. Soniodd sut i rai o’r bobl yn y lluniau fod yn aelodau o’i deulu neu’n ffrindiau iddo, tra bo eraill yn ddieithriaid llwyr y mae e’n cyfarfod ar hap yn Llundain ac yn gofyn iddynt os byddai modd iddo dynnu ffotograff ohonynt. Roeddem ni wir yn hoffi’r ffordd i Llyr gyfuno’r traddodiadol Cymreig gyda’r elfen fwy ffantasiol/ecsentrig.

 “Dyma berson sydd wedi llwyr ymroi ei hun i ddatblygu ei sgiliau a’i brofiad o fewn y byd ffotograffiaeth. Cawsom y teimlad ei fod yn ysu i gymryd y cam nesaf yn ei yrfa ac roedd clywed pa mor benderfynol y mae i lwyddo’n heintus. Roedd ei glywed yn siarad, ynghyd â’r dystiolaeth iddo arddangos ar ffurf ei ffotograffau, wir yn ein gwneud ni fel beirniaid yn gyffrous iawn i weld beth allai gyflawni yn y dyfodol.”

Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg

Image
newyddion
Lara Rees o Abertawe yn enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg 

Mynychodd Lara Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt ac mae nawr yn astudio mathemateg, technoleg cerddoriaeth a chelfyddyd gain yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.  Ym mis Medi bydd hi’n dechrau gradd mewn Dylunio Perfformiad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, ble gobeithiai i ledaenu ei sgiliau a phrofiadau artistig.

 Dywedodd Lara:  “Yn ystod cyfnodau clo Covid-19 fe wnes i ddarganfod fy nghariad at gelf, yn enwedig paentio. Rwy'n hoffi defnyddio fy nghelf i fynegi syniadau ac emosiynau - sydd yn aml yn anodd rhoi mewn geiriau - trwy gyfryngau gweledol, gyda’r gobaith y gall pobl eraill gysylltu gyda hyn yn eu ffordd eu hunain.

 “Mae'n anrhydedd llwyr i ennill Y Fedal Gelf ac mae'n hyfryd bod mewn lle sy'n dathlu'r celfyddydau creadigol a'r diwylliant Cymreig, dau beth sy'n agos iawn at fy nghalon. Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos fy ngwaith, ac er bod y gwaith celf hwn yn ddarn personol iawn i mi, gobeithio y gall pobl ddod o hyd i'w hystyr eu hunain ynddo.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.