Newyddion S4C

Dafydd Hywel: 'Dyn cymhleth, llawn direidi gyda thalent aruthrol'

S4C

Mae rhai o gewri'r byd perfformio yng Nghymru wedi bod yn cofio am yr actor, Dafydd Hywel fu farw yn 77 oed yn hynharach eleni.

Yn wreiddiol o'r Garnant yn Nyffryn Aman, roedd gan Dafydd Hywel sawl enw – DH, Alff Garnant, Caleb, Efnisien – enwau cyfarwydd sydd yn rhan o’i stori, sy'n cael ei adrodd gan actorion fel Ruth Jones, John Ogwen a Sharon Morgan mewn rhaglen arbennig ar S4C nos Sul.

Roedd yr actores Sharon Morgan yn nith iddo, yn ogystal â bod yn gyd-actores, gan ddweud mai “Hywel o’dd ei enw teuluol... o’dd e wastad yn llawn bywyd, llawn egni, chwerthin, gweiddi, a fel beth odd mamgu yn galw yn ddyn llawn, yn ddyn llawn iawn.”

Dywedodd un o gyfeillion mwyaf DH, yr actor John Ogwen, tra’n ceisio dal ei ddagrau yn ôl: “Dwi di colli rhywun lle does na neb arall yn gallu llenwi’r bwlch... Roedd o angen rhywun i edrych ar ei ôl o – fel angor – ro’dd y llong yn mynd ar ddisberod bob hyn a hyn.”

Dafydd Hywel oedd tad bedydd un o blant John Ogwen: “Oedden ni ar daith [a dyma fi’n gofyn i DH] fasa’n ni’n licio dy fod di yn dad bedydd i’r plentyn.

"Ie iawn medda fo... o’n i’n disgwyl ymateb dipyn bach mwy na hynna, ac yn sydyn ‘ma fo’n codi ac off â fo i rwla, a’r lle aeth o oedd i weld Beryl Williams, a dyma fo’n gofyn ‘beth yffach yw tad bedydd’? Wel, god father – ... dyma fo’n ôl i’r bar a gafael ynof i a’m codi i’r awyr – DH de.”   

Mae'r actores Ruth Jones yn cofio DH fel un oedd yn mynnu siarad Gymraeg â hi ar bob adeg – hyd yn oed pan nad oedd hi’n ei ddeall.

Dywedodd Ruth: “Pan yn gweithio ar Stella, roedd DH yn siarad Cymraeg ‘da fi trwy’r amser... pan ddwedes i dwi ddim yn deall ti... ro’dd e’n cario ‘mlaen.”

“Mae lot o gariad ‘da fe i bawb ond does dim ofn gydag e i ddweud ei farn... just really dyn hyfryd hyfryd.”

Mae rhai o gyfeillion agosaf DH yn cofio "dyn cymhleth, llawn direidi a hiwmor a gyda thalent aruthrol" wnaeth berfformio ar lwyfannau theatr, teledu, ffilm a hefyd yn brif weithredwr ar ei gwmni theatr ei hun – Mega.

Un arall oedd wedi cyd-weithio'n gyson â DH, oedd yr actor Dafydd Emyr, sydd wedi pwysleisio maint ei gyfraniad i fywyd a diwilliant Cymru.

“Nid Cinderella a Puss in Boots oeddem ni... yn ei gyflwyno i’r plant. Rown ni amcangyfrif bod ‘na 40,000 bob blwyddyn yn gweld ei sioeau fo... wedi ei luosi â chwarter canrif [o berfformiadau] mae hynny’n filiwn o blant. Plant bach Cymru wedi cael eu bendithio ar etifeddiaeth Gymreig oedd mor bwysig a mor agos at ei galon o.”

Bydd
Cofio Dafydd Hywel – y dyn llawn' yn cael ei ddarlledu ar S4C am 21:00 
nos Sul. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.