Newyddion S4C

Seremonïau newydd Eisteddfod yr Urdd yn ‘dangos diffyg parch at enillwyr’

Seremonïau newydd Eisteddfod yr Urdd yn ‘dangos diffyg parch at enillwyr’

Mae ymateb llugoer ar gyfryngau cymdeithasol i strwythur newydd seremonïau prif wobrau Eisteddfod yr Urdd, gyda nifer yn dweud fod urddas y seremoni, a pharch tuag at yr enillwyr wedi ei golli.

Mae’r cymeriadau newydd sy’n cael eu hadnabod fel y chwe Awen yn rhan ganolog o’r seremonïau.

Ar gyfer pob seremoni, mae’r Awen neu'r awenau yn dod yn fyw mewn ffurf cymeriad o chwedl Taliesin.

Mae Awen benodol yn tywys y beirniad i’r llwyfan i draddodi, ac mae'r enillwyr yn cael eu gwahodd i gamu i’r golau wrth i olau ddisgleirio ar ganol y llawr cyn cael eu cyfarch gan Awen.

'Pantomeim'

Ond dyw'r cymeriadau lliwgar newydd ddim yn plesio nifer fawr o bobol ar gyfryngau cymdeithasol.

Wrth fynegi ei barn ar Facebook, dywedodd un gwyliwr: “Mae'r holl beth heb urddas, ac i ddweud y gwir, yn dangos diffyg parch at enillwyr y prif wobrau, sydd yn amlwg yn bobl ifainc nid plant.”

Mae eraill wedi disgrifio'r newidiadau fel “pantomeim”.

“Mae enillwyr wedi gorfod gweithio yn galed i gyrraedd y llwyfan cenedlaethol ac wedyn rhyw syrcas fel hyn. Falle bod 'na reswm tu ôl yr holl beth ond i fi parch ac edmygedd sydd eisiau ar enillwyr.” meddai dynes arall.

Mae eraill wedi nodi na fyddan nhw yn gwylio’r seremonïau mwyach.

“Crinj go iawn. Fyddai ddim yn gwylio'r prif seremonïau ar ôl ddoe. Teimlo dros yr enillwyr.”

Mae eraill yn cydnabod fod y syniad ei hun "yn iawn", ond bod pethau wedi mynd "dros ben llestri." 

Dywedodd llefarydd ar ran Urdd Gobaith Cymru: "Wrth gwrs, gyda newid daw gwahaniaeth barn ac rydym yn ymwybodol o sylwadau rhai unigolion ar y newidiadau.

"Fel bob datblygiad newydd yn yr Urdd fe fyddwn yn ystyried, gwerthuso a thrafod  strwythur newydd y seremonïau gyda’n rhanddeiliaid yn dilyn Eisteddfod yr Urdd eleni."

Ar y maes yn Llanymddyfri ddydd Llun, fe holodd Newyddion S4C eisteddfotwyr am eu barn am y newidiadau. Ac roedd y mwyafrif yn credu bod y strwythur newydd yn ddifyr.

Mae mudiad yr Urdd wedi nodi fod y cymeriadau newydd wedi eu creu gan Gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd er mwyn trawsnewid ac "ail-ddychmygu teimlad, awyrgylch a strwythur y prif seremonïau."

"Ym mis Ebrill daeth tîm celfyddydol at ei gilydd gyda thudalen wag i drafod, rhannu profiadau a llunio strwythur newydd prif seremonïau Eisteddfod yr Urdd. Penderfynodd y criw i gymryd ysbrydoliaeth o chwedl Taliesin, gan ddefnyddio’r syniad fod person yn cael ei drawsnewid wedi iddynt ennill y brif wobr yn eu maes."

"Eleni, penderfynwyd ail edrych ar  brif seremonïau Eisteddfod  yr Urdd gan roi y cyfle i Gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd ail-ddychmygu strwythur a delwedd y seremonïau," meddai'r Urdd.

"Ymysg y tîm roedd  cyn-enillwyr, sgriptwyr, cerddorion, cynllunwyr a coreograffydd - â’r oll yn rhannu syniadau a phrofiadau personol i lunio ac arwain seremonïau’r dyfodol.

"Mae’r chwe seremoni yn cynrychioli chwe Awen. Ar gyfer pob seremoni bydd yr Awen honno yn dod yn fyw mewn ffurf cymeriad o chwedl Taliesin, wedi eu gwisgo mewn gwisg drawiadol.

"Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi chwarae rhan yng nghreu a chynhyrchu‘r seremonïau gyda prif ffocws ar ddathlu doniau ein prif enillwyr."

Y brif seremoni ar y maes yn Llanymddyfri ddydd Mercher fydd y Fedal Ddrama. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.