Y Gymraes Anne Boden i gamu i lawr fel prif weithredwr Banc Starling

Bydd sylfaenydd Banc Starling Anne Boden yn camu lawr fel prif weithredwr fis nesaf.
Cafodd Ms Boden ei geni yn Abertawe ac fe wnaeth ffurfio'r banc yn 2014.
Dywedodd y byddai'n camu i lawr ar 30 Mehefin er mwyn canolbwyntio ar ei rôl fel cyfranddaliwr.
Daw hyn yn dilyn cynnydd sylweddol yn enillion y banc dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Bydd yn cael ei holynu dros dro gan John Mountain, sydd ar hyn o bryd yn brif swyddog gweithredol y banc, tan y bydd olynydd parhaol yn cael ei benodi.
Dywedodd Ms Boden: "Erbyn hyn, rydym ni wedi tyfu o fod yn fanc sydd yn ceisio cystadlu i fod yn fanc sydd wedi ei sefydlu'n iawn, ac mae hi'n glir fod blaenoriaethau a dyletswyddau prif weithredwr a chyfranddaliwr mawr yn wahanol ac bod angen ymdrin â nhw yn wahanol.
"Wrth i Starling barhau i esblygu a thyfu, gwahanu fy nyletswyddau ydi'r peth gorau ar gyfer y banc."
Mae Ms Boden yn berchen ar 4.9% o'r banc, ac mae yna bellach 3.6 miliwn o gwsmeriaid yn ei ddefnyddio.
Llun: Banc Starling