Dim aduniad Abba yn Eurovision 2024 i ddathlu 50 mlynedd ers ennill y gystadleuaeth

Ni fydd Abba yn dod nôl at ei gilydd i gystadlu yn Eurovision 2024 yn Sweden, a fydd yn nodi 50 mlynedd ers iddynt ennill y gystadleuaeth.
Wrth siarad ar raglen BBC Newsnight dywedodd aelodau'r band Bjorn Ulvaeus a Benny Andersson ni fydd Abba yn cystadlu.
Enillodd y grŵp y gystadleuaeth canu yn 1974 gyda'r gân Waterloo.
Fe wnaeth Mr Ulvaeus a Mr Andersson ddweud na fyddant yn perfformio eto.
"Dwi ddim eisiau," meddai Andersson, "ac os nad ydw i eisiau, bydd y gweddill ddim. Mae'r sefyllfa'r un peth i'r pedwar ohonom ni, os mae rhywun yn dweud 'na'- 'na' yw'r ateb."
Ychwanegodd Ulvaeus: "Rydym yn gallu dathlu 50 mlynedd o Abba heb i ni fod ar y llwyfan."