Gostyngiad o bron i £500 y flwyddyn mewn biliau ynni ym mis Gorffennaf

Mae Ofgem wedi cadarnhau ddydd Iau y bydd gostyngiad sylweddol mewn biliau ynni ym mis Gorffennaf.
Mae'r rheoleiddiwr wedi cyhoeddi cap newydd is ar brisiau ynni yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Bydd yn gostwng ei gap ar brisau ynni o £3,280 y flwyddyn i £2,074 ar 1 Gorffennaf.
Bydd penderfyniad Ofgem yn golygu gostyngiad o £450 y flwyddyn ar gyfer biliau nwy a thrydan arferol cartrefi.
Ers mis Hydref mae polisïau'r llywodraeth wedi cyfyngu biliau arferol i £2,500, ond bydd hynny yn dod i ben.
Mae rhybudd hefyd y bydd prisiau ynni yn parhau yn uwch nag oedden nhw cyn y pandemig Covid-19 am weddill y ddegawd.
'Bargen'
Gallai y gostyngiad olygu bod rywfaint o gystadleuaeth yn dychwelyd i'r farchnad gyda darparwyr yn cynnig telerau gwahanol.
Mae bargeinion sefydlog bron wedi diflannu fel opsiwn i gwsmeriaid, ond mae disgwyl y gall bobl unwaith eto siopa o gwmpas a newid i'r cyflenwr sy'n cynnig y fargen orau.
“Rydyn ni’n gobeithio gweld defnyddwyr yn gallu gwneud rhai dewisiadau,” meddai Emily Seymour, o grŵp defnyddwyr Which?
"Fodd bynnag, bydd yn dibynnu ar ble mae prisiau ynni yn mynd nesaf."
Mae dadansoddwyr yn rhagweld y bydd y bil blynyddol arferol, os bydd y cap pris yn effeithio arno, yn aros tua £2,000 y flwyddyn am weddill y flwyddyn.
Er hynny, yn gynharach yr wythnos hon, rhybuddiodd gweinidog ynni Qatar fod y “gwaethaf eto i ddod” o ran y prinder nwy yn Ewrop, gan awgrymu y gallai prisiau godi eto.