Rhyddhau llong aeth yn sownd yng Nghamlas Suez yn yr Aifft

Mae llong arall wedi ei rhyddhau ar ôl mynd yn sownd yng Nghamlas Suez yn yr Aifft, un o lwybrau llongau prysuraf y byd.
Yn ôl Leth Shipping Agency, y llong Xin Hai Tong 23 aeth i drafferthion yno.
Dim ond 200m o led yw'r gamlas ar ei chulaf, ac nid dyma’r tro cyntaf i long wynebu problemau yno.
Ym mis Mawrth 2021, cafodd llongau eu rhwystro rhag defnyddio Camlas Suez am chwe diwrnod wedi i long yr Ever Given fynd yn sownd yno (llun uchod).
Mae’r llong Xin Hai Tong yn 189m o hyd ac fe'i hadeiladwyd yn 2010 ac mae'n hwylio o dan faner Hong Kong.
Dywedodd y Leth Shipping Agency fod cychod tynnu wedi bod yn ceisio ei symud a bod o leiaf pedwar llong arall yn sownd y tu ôl iddo.
Mae Camlas Suez wedi ei lleoli rhwng Port Said (Būr Sa'īd) ar Fôr y Canoldir, a Suez (al-Suways) ar y Môr Coch.
Llun: Yr Ever Given yn sownd yn 2021.