Pont Brittania wedi ail agor ar ôl gwrthdrawiad ar yr A55

Roedd rhan o’r A55 ger Pont Britannia ar gau am rai oriau fore dydd Mawrth ar ôl gwrthdrawiad yno.
Fe ail agorodd amser cinio.
Roedd y ffordd wedi’i chau tua’r dwyrain o gyffordd wyth, ar ochor Ynys Môn y Fenai wedi i'r gwasanaethau brys gael gwybod am wrthdrawiad am 03:30.
Caewyd y ffordd tua'r gorllewin yn ysbeidiol yn ystod y bore wrth i'r heddlu ymchwilio i'r gwrthdrawiad.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru am 5.30 GMT fod disgwyl i'r ffordd aros ar gau "am gryn gyfnod".
"Osgowch yr ardal os yn bosibl," medden nhw. "Mae disgwyl oedi a bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio.”
Cafodd y traffig ei ddargyfeirio dros Bont y Borth.