Newyddion S4C

Suella Braverman - Llun- Senedd y DU

Rishi Sunak i gwrdd a'i ymgynghorydd moeseg i drafod ymddygiad Suella Braverman

NS4C 22/05/2023

Fe fydd Rishi Sunak yn cwrdd a'i ymgynghorydd moeseg ddydd Llun yn dilyn adroddiadau am ymddygiad yr Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman.

Mae Mrs Braverman wedi’i chyhuddo o ofyn i weision sifil ei helpu i osgoi derbyn pwyntiau at ei thrwydded yrru ar ôl cael ei dal yn gyrru'n rhy gyflym.

Fe wnaeth y Sunday Times adrodd ddydd Sul fod Mrs Braverman wedi gofyn i staff yn y Swyddfa Gartref i’w helpu i drefnu cwrs ymwybyddiaeth cyflymdra iddi hi yn unig yn hytrach na mewn grŵp.

Fe wrthododd swyddogion y cais, ac yn ôl adroddiadau, fe wnaeth Mrs Braverman droi at gynorthwyydd gwleidyddol i geisio ei helpu i ddod at drefniant lle na fyddai’n gorfod mynychu cwrs gyda gyrwyr eraill. 

Roedd hynny’n cynnwys y posibilrwydd o gwblhau cwrs ar-lein dan ffug enw, neu gyda'r camera wedi ei ddiffodd.

Cafodd ei dal yn gyrru tu allan i Lundain tra’n Dwrnai Cyffredinol yr haf diwethaf.

Yn y pen draw, fe benderfynodd dderbyn y tri phwynt ar ei thrwydded.

Mae'r pleidiau Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am ymchwiliad i’r honiadau ond yng nghynhadledd y G7 yn Hiroshima ddydd Sul, ni wnaeth y Prif Weinidog Rishi Sunak gadarnhau os byddai un yn cael ei gynnal. 

Fe ddywedodd ei bod wedi “mynegi edifarhad”, ond ei fod heb siarad gyda hi eto am y mater.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Lafur: “Rydyn ni angen ymchwiliad ar unwaith mewn i beth sydd wedi digwydd yma, gan gychwyn gyda Laurie Magnuss yn edrych sut y mae hyn yn ffitio i mewn gyda’r cod gweinidogol”.

Fe ddywedodd ffynhonnell yn agos i Mrs Braverman fod y tocyn gyrru wedi ei adrodd ar y pryd i’r Swyddfa’r Cabinet.

Llun: Senedd San Steffan

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.