Teyrngedau i’r awdur Martin Amis sydd wedi marw yn 73 oed

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r awdur Martin Amis sydd wedi marw yn 73 oed.
Fe fu farw o gancr yn ei gartref yn Fflorida yn ôl y New York Times.
Fe ysgrifennodd 14 o nofelau ac mae’n bennaf nodedig am ei nofelau Money a London Fields.
Mae’n cael ei ystyried fel un o’r awduron mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth.
Dywedodd yr awdur Salman Rushdie: “Mae ei lais yn dawel nawr. Fe fydd ei ffrindiau yn gweld ei eisau’n arw.”
Dywedodd Kazuo Ishiguro: “Roedd yn ysbrydoliaeth i mi.”