Gŵyl y Gelli: Gŵyl rithiol yn unig yn ‘golled’

Newyddion S4C 26/05/2021

Gŵyl y Gelli: Gŵyl rithiol yn unig yn ‘golled’

Yn enwog fel tref y llyfrau, mae Gŵyl y Gelli yn dod â’r byd i Gymru, gyda chynulleidfaoedd o ddegau o filoedd yn heidio i’r dref ym Mhowys ar flwyddyn arferol.

Ond, bydd yr holl ŵyl yn cael ei chynnal yn rhithiol eto eleni, ac mae pryder bod hynny’n cael effaith ar y dref.

Yn ôl un gŵr sy’n byw yn lleol, mae peidio cael yr ŵyl yn golled.

Dywedodd Trystan Hardy: “Mae lot o’r busnesau lleol yma yn siopau llyfrau, neu yn caffis, neu yn bwytai, busnesau sydd yn buddio o gael mwy o bobl a’u troed yn y dref.”

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 26 Mai â 6 Mehefin, ond mae busnesau yn ysu i gael cynnal gŵyl fyw unwaith eto.

Dywedodd Dolan Haycox, sy’n berchennog tafarn a gwesty: “Dyma’r adeg mwya’ prysur i ni yw’r festival trwy’r flwyddyn, fyddwn ni’n falch o weld hi nôl flwyddyn nesa’ achos mae hi’n dda i’r dref a pob un rownd y busnesau. Mae’r lle hyn yn llawn am trwy’r 10 diwrnod. Mae’n gwd i’r dref, mae’n really gwd i bob un. So sai’n lico bod hebddi, ond gobeithio bydd hi nôl blwyddyn nesa’.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.