Newyddion S4C

Miloedd yn Abertawe yn gorymdeithio dros annibyniaeth i Gymru

20/05/2023
Annibyniaeth Abertawe

Daeth miloedd o bobl i Abertawe ar gyfer gorymdaith dros annibyniaeth Cymru ddydd Sadwrn.

Mae trefnwyr y digwyddiad, AUOB (All Under One Banner) ac YesCymru, yn amcangyfrif fod rhwng 3,000 a 7,000 o bobl wedi ymgynnull i orymdeithio drwy strydoedd y ddinas.

Dyma’r gorymdaith gyntaf o’i fath eleni, wedi i 10,000 o bobl ac 8,000 o bobl fynychu gorymdeithiau yng Nghaerdydd a Wrecsam y llynedd.

Ymgasglodd torfeydd ar y Glannau cyn symud i ymlaen i Stryd y Gwynt a chanol y ddinas. 

Ar ôl yr orymdaith, cafodd rali ei chynnal ar lawnt Amgueddfa Genedlaethol Y Glannau, gydag arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville-Roberts, yr awdur Mike Parker, Naomi Hughes o YesCymru, ac arweinydd Plaid Werdd Cymru, Anthony Slaughter, yn annerch dilynwyr.

Roedd arweinydd gweithredol Plaid Cymru, Llyr Gruffydd AS, hefyd ymhlith y dorf.

Ym mis Ebrill, fe ddywedodd Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak, nad oedd yn dymuno gweld rhagor o bŵer yn cael ei ddatganoli i Gymru.

‘Gweledigaeth'

Yn ei haraith, fe ddywedodd Liz Saville Roberts: “Rydym wedi uno yn erbyn yr anghyfiawnderau rydym yn eu hwynebu fel cenedl – diffyg ariannu i’r rheilffyrdd, dŵr, yr ymosodiadau ar brotest heddychlon. 

“Rydym yma i amlinellu ein gweledigaeth am wlad well, gwlad fwy cyfoethog a fwy teg, ac i argyhoeddi pobl fod mwy i ddyfodol Cymru na thlodi hir oes. 

“Does ddim rhaid i bethau fod fel hyn. Rydym yn genedl falch, gadarn a gwefreiddiol, gyda mwy 'na ddigon o’r gallu i ffynnu ar ben ein hunain. 

Image
Annibyniaeth Abertawe

 

“Rydyn ni’n gwybod hynny, ac rydym yma i barhau gyda’r traddodiad Cymreig, i sefyll i fyny yn erbyn anghyfiawnder, ond i godi uwch ei phen.”

Dywedodd Mike Parker: “Mae angen gwerthoedd Cymreig ar y byd – cymuned gref, caredigrwydd, cynaladwyedd – ac mae eu hangen ar y llwyfan ehangaf posib. Mae mor syml â hynny.

“Mae gan y wlad hon gymaint i'w rannu. Ond ni all fod hyd nes y byddwn wedi dod o hyd i'n llais ein hunain ac yn medru ei ddefnyddio.

“Ni fydd unrhyw dincian o amgylch yr ymylon o’r setliad presennol yn rhoi llais go iawn i Gymru.

“Mae’r DU wedi dangos dro ar ôl tro na all ac na fydd yn diwygio ei hun.

“Mae angen annibyniaeth ar Gymru. Mae angen Cymru annibynnol ar ein cymdogion yn yr ynysoedd hyn, mae angen Cymru annibynnol ar y byd ehangach.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.