Angladd y Frenhines Elizabeth II wedi costio £162 miliwn

Costiodd angladd y Frenhines Elizabeth II £162 miliwn, yn ôl y Trysorlys.
Cafodd yr angladd ei chynnal ar 19 Medi 2022, yn dilyn pythefnos o alaru cyhoeddus.
Dros y cyfnod hwnnw, cerddodd cannoedd o filoedd o bobl heibio i arch y Frenhines yn Neuadd Westminster.
Talodd y Swyddfa Gartref mwyafrif y costau, sef £74 miliwn, ac fe dalodd yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon £57 miliwn.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyfrannu £2.202 miliwn tuag at y cyfanswm, gyda Llywodraeth yr Alban yn cyfrannu £18.576 miliwn, a Swyddfa Gogledd Iwerddon yn talu £2.134 miliwn. Cafodd y costau rheini eu had-dalu yn llawn, yn ôl y Trysorlys.
Mae’r costau gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau yn ymwneud â’r angladd a digwyddiadau eraill, gan gynnwys y costau ynghlwm ag arddangosfa gyhoeddus yr arch.
Dywedodd John Glen, prif ysgrifennydd i’r Trysorlys, mai “sicrhau bod y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal yn y modd fwyaf llyfn a gyda’r lefel addas o urddas” oedd blaenoriaeth y Llywodraeth ar y pryd.