Arweinydd Cyngor Sir Benfro yn ennill pleidlais o ddiffyg hyder

Mae arweinydd Cyngor Sir Benfro wedi ennill pleidlais o ddiffyg hyder.
Fe wnaeth David Simpson ennill y bleidlais o 31 o bleidleisiau i 29, wedi i gyfarfod arbennig ei gynnal ddydd Iau er mwyn ystyried y mater.
Cafodd y bleidlais ei chyflwyno gan y Cynghorydd Jamie Adams ar ran y Grŵp Annibynnol gyda disgwyl y byddai aelod Trefdraeth a Dinas, y Cynghorydd Huw Murphy, yn cael ei enwi fel olynydd Mr Simpson os y byddai'n colli'r bleidlais.
Daeth Mr Simpson, sydd yn gynghorydd dros Llanbedr Felffre, yn arweinydd y cyngor yn 2017.
Llun: Y cynghorydd David Simpson (chwith) a'r cynghorydd Huw Murphy (dde).