BT i ddiswyddo hyd at 55,000 o weithwyr erbyn diwedd y ddegawd

Mae cwmni BT Group wedi cyhoeddi y bydd yn cwtogi rhwng 40,000 a 55,000 o swyddi erbyn diwedd y ddegawd fel rhan o gynlluniau i dorri costau ac ailwampio strwythr y gweithlu.
Ar hyn o bryd mae gan y cwmni tua 130,000 o weithwyr ond mae’n bwriadu lleihau’r nifer hwnnw i o dan 90,000 erbyn diwedd y ddegawd, medd llefarydd.
Fe allai hyn arwain at ostyngiad o hyd at 55,000 o swyddi dros gyfnod o rhwng pump a saith mlynedd.
Dywedodd y cwmni ei fod am ddibynnu ar “weithlu llawer llai” a sylfaen costau is, ac i ddigideiddio prosesau.
Dywedodd BT na fydd angen cymaint o staff arno i adeiladu a chynnal y rhwydwaith band eang ffeibr llawn a 5G unwaith y bydd wedi’i gyflwyno,
Dywedodd y Prif Weithredwr Philip Jansen: “Trwy barhau i adeiladu a chysylltu ar frys, digideiddio’r ffordd yr ydym yn gweithio a symleiddio ein strwythur, erbyn diwedd y 2020au bydd BT Group yn dibynnu ar weithlu llawer llai a sylfaen costau llawer llai.
“Bydd y BT Group newydd yn fusnes mwy main gyda dyfodol mwy disglair.”
Llun: PA