Newyddion S4C

Ysgol Abersoch

Dyfodol nifer o ysgolion bach cefn gwlad yn y fantol wrth i gynghorau ymgynghori

NS4C 18/05/2023

Mae 'na bryder am ddyfodol nifer o ysgolion cefn gwlad yn y gogledd wrth i gynghorau ymgynghori ar eu dyfodol.

Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus gan Gyngor Môn ar eu 'Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg' yn dod i ben ddydd Iau.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae'r cynllun yn fygythiad i 17 o ysgolion ar yr ynys, a fyddai'n gweld cannoedd o ddisgyblion yn cael eu disodli o'u hysgolion medd ymgyrchwyr.

O fewn y misoedd nesaf mae disgwyl i Gyngor Gwynedd drafod dyfodol ysgolion bach yn y sir honno hefyd, gyda'r aelod cabinet dros addysg yn dweud nad ydy'r sefyllfa yn y sir honno "yn gynaliadwy".

Mae'r ddau gyngor yn dweud bod rhaid ystyried newidiadau oherwydd gostyngiad sylweddol yn nifer y dysgwyr. 

Yn ôl Cyngor Môn, mae angen i fwy o ddysgwyr gael cyfleoedd cyfartal trwy fynd i ysgolion newydd sydd "yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif."

Mae Cyngor Gwynedd yn un o'r siroedd gyda'r nifer uchaf o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru, ac mewn adroddiad, dywedodd aelod y cabinet dros addysg, Beca Brown: "Awgryma hyn nad yw ein cyfundrefn ysgolion presennol yng Ngwynedd yn gynaliadwy."

Ychwanegodd mai nod y strategaeth newydd fydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi fydd i "foderneiddio’r gyfundrefn ysgolion yng Ngwynedd."

Dywedodd bod 29 o ysgolion cynradd Gwynedd gyda llai na 60 o ddysgwyr, a 10 o’r ysgolion hyn gyda llai na 30 o ddysgwyr.

"Ymhen tair mlynedd, rhagwelir y bydd y nifer o ysgolion cynradd sydd â llai na 30 o ddysgwyr wedi cynyddu i 16," meddai.

"Dylid nodi hefyd fod y dysgwyr yn ein hysgolion lleiaf yn derbyn cyfran uwch o gyllid y dysgwr na’r cyfartaledd ar draws y sir. Ar gyfartaledd, mae’r gost fesul dysgwr yn ein hysgolion cynradd sydd â llai na 30 o ddysgwyr yn £9,040 – sy’n sylweddol uwch na’r cyfartaledd sirol o £4,509."

Pryder

Wrth ymateb i ymgynghoriad Cyngor Ynys Môn, dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw'n pryderu am yr effaith y gallai'r strategaeth gael ar yr iaith Gymraeg.

"Y prif nod yw trio gwthio unwaith eto eu hobsesiwn i gau ysgolion gwledig Cymraeg," meddai Ffred Ffransis ar ran y Gymdeithas. 

"Mae'r Cyngor yn tristáu fod demograffeg y cymunedau'n newid trwy fod llai o bobl ifainc ond eto am gau ysgolion, sy'n ei gwneud yn llai tebyg byth y bydd teuluoedd ifainc yn ymgartrefu yn y cymunedau hyn heb ysgol i'w plant."

Ychwanegodd: "Mae gan Gyngor Gwynedd gyfle i ddatblygu strategaeth newydd, gadarnhaol i gydlynu darpariaeth addysg mewn ffordd fydd yn cryfhau profiad addysgol pobl ifanc, a'n cymunedau.

"Fel bob amser rydyn ni'n barod iawn i gyfrannu at a chynorthwyo'r Cyngor gyda'r gwaith o baratoi strategaeth addysg newydd."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.