Luke Evans yn canmol Michael Sheen fel cyfarwyddwr teledu

Mae’r actor Luke Evans wedi siarad am ei brofiad o weithio dan arweiniad Michael Sheen yn ei rôl gyntaf fel cyfarwyddwr rhaglen teledu.
Wrth siarad yn uwch gynhadledd y Sgrin Cymru, dywedodd Evans fod ei gyd-gymro yn “gwybod beth sydd ei angen oddi wrthoch chi” yn ei swydd gyntaf yn cyfarwyddo.
Bydd Evans yn serennu yn y ddrama BBC, The Way, gyda Callum Scott Howells o It’s a Sin, a hynny dan gyfarwyddyd Michael Sheen.
Mae’r drama tair rhan yn un "emosiynol, gyda hiwmor tywyll” yn canolbwyntio ar sut mae teulu'r Driscolls yn ymdopi gyda gwrthryfel sifil yn eu tref ddiwydiannol yng Nghymru.
Bu Evans yn canmol Sheen am ei ymdrechion cyfarwyddo wrth ddweud: “Dyma yw swydd gyntaf Michael Sheen yn cyfarwyddo. Byddech chi byth yn gwybod hynny.
“Gallwch edrych ar y bwrdd lluniau yn eich trelar a meddwl, sut mae o wedi llwyddo i gael yr holl bobl yma mewn stori Gymreig? Oherwydd Michael Sheen yw e, dyna sut.
“Fel cyfarwyddwr mae’n ardderchog, oherwydd mae’n actor. Mae’n deall sut i siarad ag actorion. Mae’n gwybod beth sydd ei angen a sut i gael hyn allan ohonoch chi,” meddai.
Llun: Gage Skidmore/Wikimedia Commons.