Arweinyddiaeth Plaid Cymru: Rhun ap Iorwerth heb gadarnhau a fydd yn ymgeisio

Wrth ymateb i gwestiynau a fydd yn ymgeisio i fod yn arweinydd Plaid Cymru, mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud ei fod yn 'meddwl am y peth.'
Mewn darllediad ar gyfrwng cymdeithasol nos Lun, dywedodd yr aelod sy'n cynrychioli Ynys Môn yn y Senedd : "Wrth gwrs fy mod i'n gorfod meddwl am y peth, ac rwy'n gorfod ystyried yn ofalus yr hyn sydd er budd Ynys Môn a Chymru."
Ond ychwanegodd nad oedd ganddo "gyhoeddiad mawr" nos Lun.
Llŷr Gruffydd yw arweinydd dros dro Plaid Cymru, wedi i hynny gael ei gadarnhau yn ystod cyfarfod o Gyngor Cenedlaethol y blaid yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.
Daw wedi i Adam Price gyhoeddi dridiau ynghynt y byddai'n ymddiswyddo fel arweinydd Plaid Cymru ar ôl pedair blynedd yn y rôl.
Cynyddodd y pwysau ar Adam Price yn sgil adroddiad beirniadol a gafodd ei gyhoeddi ddechrau Mai.
Daeth yr adroddiad hwnnw i'r casgliad bod angen ymateb ar fyrder i'r hyn a gafodd ei alw yn "ddiwylliant gwenwynig" o fewn y blaid.
Wrth ymateb i'r adroddiad hwnnw, dywedodd Rhun ap Iorwerth nos Lun bod ei gynnwys yn cael ei drin o ddifrif gyda'r bwriad i gael "datrysiad absoliwt.'
"Dylai hynny fod wedi cael ei wneud ynghynt, ac rydym yn dysgu " meddai.
"Collom ein harweinydd, ac mae'n gyfnod heriol i'r blaid," ychwanegodd.
Adeg ymddiswyddiad Adam Price, dechreuodd y dyfalu a fyddai Rhun ap Iorwerth yn ymgeisio i arwain y blaid. Ond ag yntau wedi mynegi diddordeb i ymgeisio ar gyfer cynrychioli Ynys Môn yn San Steffan, dyw ei sefyllfa ddim yn glir.
Yn y darllediad nos Lun, dywedodd ei fod wedi ei ddewis i gynrychioli'r blaid yn ei etholaeth, ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yn San Steffan, ac felly bod yn "rhaid iddo feddwl " am ei sefyllfa.
Bydd arweinydd newydd parhaol yn y rôl yn yr haf, yn ôl Plaid Cymru.