Penodi Llŷr Gruffydd yn swyddogol fel arweinydd Plaid Cymru dros dro
Penodi Llŷr Gruffydd yn swyddogol fel arweinydd Plaid Cymru dros dro
Mae Llŷr Gruffydd wedi cael ei benodi yn swyddogol fel arweinydd dros dro Plaid Cymru.
Fe wnaeth y blaid gadarnhau'r penodiad yn dilyn cyfarfod o Gyngor Cenedlaethol y blaid yn Aberystwyth fore dydd Sadwrn.
Mae disgwyl iddo gymryd drosodd gan Adam Price yn ffurfiol ddydd Mercher.
Mewn datganiad, dywedodd Mr Gruffydd ei fod yn bleser cael y cyfrifoldeb o arwain y blaid.
“Er yn fyr, mae fy nghyfnod fel Arweinydd Dros Dro Plaid Cymru yn digwydd ar amser tyngedfennol i’r mudiad. Rydym wedi bod yn myfyrio, rydym yn diwygio, a byddwn yn adfywio ein hamcanion yn sgil casgliadau Prosiect Pawb.
“Mae’r casgliadau hyn yn groes i’n gwerthoedd a’n daliadau craidd. Wrth fyfyrio ar y cyfnod hwn rydym yn atgoffa ein hunain o uchelgais Plaid Cymru – i fod yn blaid gynhwysol, yn blaid sy’n gwerthfawrogi ei staff, yn blaid wedi ei gwreiddio mewn egwyddorion o weithredu blaengar – gyda thegwch a chydraddoldeb yn rhan o’n DNA.
“Bydd cyflymu’r broses o ddiwygio yn flaenoriaeth i adain wirfoddol, wleidyddol a phroffesiynol y Blaid. Drwy wneud hyn gallwn adfywio ein pwrpas, gwireddu rhai o brif elfennau ein maniffesto drwy’r Cytundeb Cydweithio, cynnig atebion pan fo Cymru ar ei cholled a gweithio’n fwy dygn nag erioed i warchod ein cymunedau.
“Wrth symud ymlaen yn unedig, gallwn osod seiliau newydd a chadarn gyda’n huchelgais heb ei bylu.”
Bydd enwebiadau ar gyfer arweinyddiaeth y blaid yn cau ar 16 Mehefin.