Newyddion S4C

Heddwas wedi ei wahardd o'i waith yn dilyn fideo o ddigwyddiad ym Mhorthmadog

12/05/2023

Heddwas wedi ei wahardd o'i waith yn dilyn fideo o ddigwyddiad ym Mhorthmadog

Mae heddwas wedi ei wahardd o'i waith yn dilyn cyhoeddi fideo o ddigwyddiad ym Mhorthmadog.

Fe wnaeth fideo ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol o ddyn o Borthmadog yn cael ei arestio gan ddau swyddog yn y dref ddydd Mercher.

Yn y fideo mae'r dyn 34 oed yn cael ei orfodi i'r llawr mewn gardd, cyn i un swyddog afael yn ei wddf a'i ddyrnu yn ei wyneb nifer o weithiau.

"Gallwn gadarnhau bod y swyddog dan sylw wedi'i wahardd o'i ddyletswydd," meddai'r heddlu.

"Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) sy’n arwain yr ymchwiliad ac felly ni allwn ddarparu unrhyw wybodaeth bellach.

"Gallwn gadarnhau fod y dyn a gafodd ei arestio wedi ei ryddhau ar fechnïaeth."

'Grym eithriadol'

Roedd gwleidyddion Plaid Cymru yng Ngwynedd wedi ysgrifennu at Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn am esboniad yn dilyn arestio'r dyn.

Mewn llythyr ar y cyd i'r Prif Gwnstabl, dywedodd yr aelod lleol o Senedd Cymru Mabon ap Gwynfor, yr aelod Seneddol lleol Liz Saville-Roberts, a dirpwyr arweinydd Cyngor Gwynedd Nia Jeffreys: "Mae nifer o etholwyr wedi tynnu’n sylw at fideo gafodd ei bostio ar Facebook ddoe yn dangos dau heddwas yn atal dyn.

"Digwyddodd hyn yn yr awyr agored mewn ystad o dai yn ardal Porthmadog.

"Er nad ydym yn gwybod manylion y digwyddiad neu a ydi’r dyn wedi cael ei arestio neu’i gyhuddo, rydym yn cysylltu er mwyn cyfathrebu pryderon etholwyr bod y fideo’n edrych fel bod un o’r ddau heddwas yn defnyddio grym eithriadol."

'Ymchwiliad'

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd mewn neges ar Twitter ddydd Iau fod y llu wedi cyfeirio'r mater at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, ac na fyddai modd iddi wneud sylw pellach.

Mewn datganiad brynhawn ddydd Iau, dywedodd y llu: "Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad yn ymwneud ag arestio dyn yn ardal Porthmadog ar 10 Mai 2023, a'r dystiolaeth ar fideo sydd wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Mae'r mater wedi cael ei gyfeirio at Swyddfa Ymddygiad Heddlu Annibynnol (IOPC) gan Heddlu Gogledd Cymru ac mi fydd yr achos yn cael ei ymchwilio ganddyn nhw fel ymchwiliad annibynnol.

"Rydym yn ddiolchgar i'r cyhoedd am dynnu sylw at y digwyddiad ond yn gofyn am y tro i dystion yn unig gysylltu â nhw yn hytrach na phobl a welodd y digwyddiad ar fideo neu ffyrdd eraill.

"Gan fod yn ymchwiliad yn parhau ni fydd yr heddlu yn gwneud unrhyw sylwadau pellach am y mater ar hyn o bryd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.