Newyddion S4C

Eilir Owen Griffiths: 'Cerddoriaeth wedi fy helpu i ddianc o garchar tywyll du'

14/05/2023
Eilir Owen Griffiths

Mae Eilir Owen Griffiths wedi mwynhau gyrfa ddisglair fel cyfansoddwr, arweinydd corau a chyfarwyddwr cerddorol.

Ond y tu ôl i’r wên a’r persona cyhoeddus, roedd Eilir, yn ei eiriau ei hun “mewn carchar tywyll, du.“

I nodi Wythnos Iechyd Meddwl fe fydd Eilir yn agor ei galon am ei brofiadau dwys mewn rhaglen o Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C nos Sul.

Dyma’r tro cyntaf iddo siarad yn agored am ei broblemau iechyd meddwl ac yn ystod y rhaglen, fe fydd yn rhannu ei brofiadau gyda’r cyflwynydd Lisa Gwilym.

Dywedodd Eilir ei fod wedi cyrraedd ymyl y dibyn – argyfwng mwyaf ei fywyd, pan oedd yn barod i droi cefn ar y cyfan.

“Ro’n i’n commutio i Gaerfyrddin ddwy awr y dydd ac achos bo fi wedi blino gymaint o’n i’n edrych ar number plates, a’r number plates yn gyrru negeseuon negyddol i fi,” meddai.

“Mae’n swnio’n hollol bisâr rŵan ond dwi’n cofio meddwl am bethau fel ‘na. A thaith nôl o Gaerfyrddin un tro wnes i ffeindio fy hun ar bont uwchben yr M4.

“O’n i ddim eisiau dangos i bobl bo fi’n methu ar rywbeth, felly oedd o’n haws i fi fynd na methu.”

Meddwl am ei wraig, Leah, a’i blant oedd wedi ei rwystro rhag mynd ymhellach, meddai.

“Os fyddai’r Eilir rwan yn edrych yn ôl, bydden i’n dweud ‘paid â gadael iddo fo gyrraedd y pwynt yma eto’,” meddai.

‘Dim balans’

Roedd sefydlu Côr CF1 a chael llwyddiant fel arweinydd yn “hyfryd”, meddai, ond daeth hynny â phroblemau yn ei sgil.

“Roedd bod yn fwy cyhoeddus, efallai, wedi rhoi pwysau arna i fel person ac roedd rhaid delio efo sefyllfaoedd eitha’ anodd gyda’r elfen gystadleuol, a bo fi yn ffeindio fo’n beth anodd rhoi fy hun allan yna fel arweinydd côr.”

Y peth anoddaf gydag iselder, eglura, yw trio cael y balans rhwng yr “highs aruthrol a’r lows hyd yn oed gwaeth” ac am flynyddoedd “doedd dim balans o gwbl”.

Aeth at y doctor am help ond pan fyddai’n teimlo’n well roedd yn “pwsho’r help i ffwrdd.”

Daeth argyfwng arall yn ystod Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 2014 pan oedd Eilir yn Gyfarwyddwr cerdd ar yr ŵyl:

"Nes i jest torri i lawr a dwi'n credu bo fi wedi cael mini breakdown."

I’w wraig Leah a’i rieni y mae’r diolch ei fod wedi goroesi’r profiad yna, ac fe lwyddodd i barhau gyda’i waith yn yr Eisteddfod y diwrnod canlynol.

‘Gwers’

Ond ynghanol y cyfnod clo ym mis Rhagfyr 2021, daeth at ymyl y dibyn unwaith eto. Leah oedd wedi delio gyda’r sefyllfa, eglura, gan fynd gyda’i gŵr at y doctor.

“A dyma fo’n dweud ‘you have to stop everything’. A wnes i feddwl ‘Na’. Oedd y syniad yna bod rhywun yn dweud bo fi ddim yn cael arwain côr yn ddinistriol i fi. Yr elfen gerddorol oedd yn cadw fi fynd.”

Ar ôl seibiant dros y Nadolig fe ail-daniodd ei fywyd cerddorol gan arwain CF1 i’r brig yn rownd y corau cymysg yng Nghystadleuaeth Côr Cymru.

Fe ddefnyddiodd y cyfnod clo i gyfansoddi Lux (Diolch i Ti) – “sef gosodiad o pan o’n i mewn carchar tywyll, du. Y syniad ydy bod yr Haleliwia yn dechrau’n bell i ffwrdd ac yn raddol mae’n dod yn nes ac yn nes ac, yn y diwedd, yn chwalu waliau’r carchar i lawr.”

Erbyn hyn mae Eilir “mewn lle gwell” ac yn obeithiol am y dyfodol. Mae’n awyddus i helpu eraill drwy siarad am ei brofiadau.

“Siarad - hwnna oedd y wers bwysica’ i fi ddysgu,” meddai.

“Ro’n i’n cau lawr, cau lawr, masg i fyny a doeddwn i erbyn y diwedd ddim yn siarad efo’r bobl agosa’ ata’i ac mae mor, mor bwysig alla’i ddim pwysleisio ddigon.

“A sicrhau bod yna rywun yna i wrando, hyd yn oed pan dach chi’n meddwl bo chi’n hollol ar ben eich hun.”

Bydd Dechrau Canu Dechrau Canmol yn cael ei darlledu ar Nos Sul 14 Mai, 7.30 ac ar gael ar S4C Clic, iPlayer a phlatfformau eraill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.