Galw o'r newydd am fwy o gymorth i famau ifanc sy'n bwydo o'r fron
Galw o'r newydd am fwy o gymorth i famau ifanc sy'n bwydo o'r fron

Ma’ ‘na alw o’r newydd am fwy o gymorth i famau ifanc sy’n dewis bwydo o’r fron.
Daw hynny wrth i ffigyrau ddangos lleihad sylweddol yn y nifer sydd yn parhau i fronfwydo o fewn chwe mis o roi genedigaeth.
Mae Sioned Davies o Sir Ddinbych yn fam i ddau o blant ac wedi cael profiadau amrywiol gyda bwydo o’r fron.
Dywedodd ei bod yn credu y dylai mwy o gymorth arbenigol fod ar gael ar ôl rhoi genedigaeth.
“Chi sy’n gyfrifol am fwydo'r babi,” meddai. “Oni’n cwestiynu fy hun lot ar y dechrau.
“Ydyn nhw’n cael digon? Ydyn nhw’n cael gormod? A ma’ hynny’n gwneud i’ch emosiwn chi fod dros bob man. Mae o’n sialens.
“Roedd y cymorth ges i yn yr Ysbyty gan y tîm yn amhrisiadwy. Ond yn anffodus dwi’m yn meddwl fod gennym ni'r un math o wasanaeth yn y gymuned.
“Dwi wedi gorfod edrych ar lot o dudalennau ar gyfryngau cymdeithasol i gael cyngor.
“Da ni angen gwell gwasanaeth yn y gymuned i ni allu cysylltu hefo nhw pryd bynnag da ni angen yn lle just aros am apwyntiadau hefo’r ymwelwyr iechyd.
“Ma’ angen mwy o gymorth yn bendant ac angen yr arian i fynd hefo fo. Ma’ ‘na amseroedd yn ganol nos sy’n anodd, felly i jesd cael rhywun ar ddiwedd y ffon.
“Ma’ cal y cymorth yna yn bwysig, dim dim ond oherwydd yr help ymarferol sydd ei angen, ond y cymorth emosiynol sydd ei angen ar fam ar ôl rhoi genedigaeth, ma’ angen cael y cymorth hynny.
“Does gan y bydwragedd ddim yr amser, does dim digon ohonyn nhw, felly ma cal y tîm hwnnw sy’n ffocysu ar fronfwydo yn unig yn bwysig.”
Roedd yna farn debyg ymhlith Mamau yn y grŵp ioga babi ym Mhenarth hefyd.
Fe ddywedodd Beca Ellis, sydd eisoes yn fam i bedwar ei fod yn “anodd ac mae angen lot o gymorth”.
“Ma’r cyngor yn wahanol iawn,” meddai. “Does dim un dull sydd yn gweithio i bawb.
“Os rydych chi’n siarad hefo gwahanol bobl mae’n newid o berson i berson. Fyswn i’n hoffi gweld mwy o gefnogaeth a llai o bwysau o ran dim ond un ffordd sy’n gweithio.”
‘Annog’
Mae ffigyrau gan Lywodraeth Cymru yn dangos lleihad sylweddol yn y nifer sydd yn parhau i fronfwydo o fewn chwe mis o roi genedigaeth a bod tueddiad i famau roi’r gorau i fronfwydo wrth i amser fynd yn ei flaen ar ôl rhoi genedigaeth.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf rhwng Gorffennaf a Medi'r llynedd, roedd 63.4% o famau i fabanod newydd anedig yn bwydo o’r fron, tra bod y ffigwr yn disgyn i 24.7% i fabanod chwe mis oes.
Yn ol un sy’n arbenigo ac yn gweithio yn y maes, Catrin Roberts, mae angen addysgu merched a’u hannog i baratoi a threfnu ymlaen llaw tra’n feichiog fel eu bod yn fwy parod i wynebu’r heriau.
“Mae ysbytai a llefydd cyhoeddus yn gorfod gweithio tuag at safonau bronfwydo a rhan o hynny ydi addysg yn ystod beichiogrwydd,” meddai.
“Mae hynny yn faes fedrwn ni wella fel bod gan ferched gwell syniad o beth i ddisgwyl yn ymarferol a be ma fel i fronfwydo o ddydd i ddydd.
“Mae cal babi yn flinedig iawn a dyma le ma cymdeithas a theulu yn dod fewn i bethe. Mae ‘na help allan yna ond yn anffodus swni’n deud bod 'na ddim digon ohonom ni i ofalu ar gyfer pawb sy’n cael problemau a falle dyna le ma rhai yn teimlo bod nhw ddim yn cael y gefnogaeth.
“Mae angen trio annog breastfeeding support peers yn y gymuned i roi cefnogaeth.
“Mae’n andros o bwysig gwrando ar be ma’r merched isio oherwydd ar ddiwedd y dydd annog mwy i fronfwydo ydi’r nod.”
‘Emosiynol’
Er gwaetha’r strategaeth gan Lywodraeth Cymru i geisio cael mwy o famau i fronfwydo, mae patrwm y ffigyrau wedi bod yn debyg dros y pum mlynedd ddiwetha'.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, “Mae cymorth bwydo ar y fron yn parhau i gael ei flaenoriaethu gan wasanaethau bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd a dylai byrddau iechyd ystyried amgylchiadau pob unigolyn wrth ddarparu cymorth”.
Fe ychwanegon nhw hefyd bod eu “Cynllun Gweithredu pum mlynedd ar Fwydo ar y Fron yn nodi sut y byddwn yn cefnogi pobl i gychwyn a chynnal bwydo ar y fron, lle maent yn dewis gwneud hynny”.
Yn ôl Sioned mae angen mwy o arian i ddatblygu gwasanaethau o’r fath fel bod merched yn cael y sylw sydd ei angen er mwyn gallu parhau i fwydo o’r fron.
“Dwi’n teimlon gryf bod angen mwy o wasanaethau ac angen eu hariannu nhw. Dwi’n poeni bod nhw’n cael eu hariannu dros dro ond ddim yn y tymor hir.
“Mae angen sylweddoli ddim just y manteision i’r plentyn ond hefyd yr ochor emosiynol a’r cymorth sydd ei angen ar Famau hefyd.”