Elon Musk yn enwi Linda Yaccarino yn brif weithredwr newydd i Twitter

Mae Elon Musk wedi enwi Linda Yaccarino, cyn pennaeth hysbysebu NBCUniversal, fel prif weithredwr newydd i Twitter.
Daw hyn ar ôl i Musk gyhoeddi ei fod wedi dod o hyd i brif weithredwr newydd ar y platfform cyfryngau cymdeithasol, a brynodd y llynedd am £35.2bn, yn gynharach ddydd Gwener.
Bydd Linda Yaccarino, sy’n gadeirydd i Fforwm Economaidd y Byd, yn cymryd yr awenau oddi wrth Musk ymhen chwe wythnos.
Fe fydd Musk yn parhau yn gadeirydd gweithredol a phrif swyddog technolegol Twitter.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cadarnhad gan NBCUniversal bod Yaccarino yn gadael ei rôl “ar unwaith” ar ôl 12 mlynedd gyda’r cwmni cyfryngau.
Cadarnhaodd Mr Musk ar y cyfryngau cymdeithasol: “Rwy’n gyffrous i groesawu Linda Yaccarino fel prif weithredwr newydd Twitter!
“Fe fydd hi’n canolbwyntio'n bennaf ar weithrediadau busnes, tra byddaf yn canolbwyntio ar ddylunio cynnyrch a thechnoleg newydd.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Linda er mwyn trawsnewid y platfform i X, yr ap ar gyfer popeth,” meddai.
Mae Musk wedi bod dan bwysau i enwi rhywun i arwain y cwmni gan ei ryddhau i ganolbwyntio ar ei fusnesau eraill.
Y llynedd, pleidleisiodd defnyddwyr Twitter y dylai Mr Musk gamu o'r neilltu mewn arolwg barn ar-lein.
Ar y pryd, dywedodd: “Does neb eisiau’r swydd a all gadw Twitter yn fyw mewn gwirionedd.”