
Nicky John: 'Mae mor bwysig i siarad yn agored am ganser'
Nicky John: 'Mae mor bwysig i siarad yn agored am ganser'
"Ma' genna ni gymaint i fod yn ddiolchgar ohona fo, ag os unrhyw beth, ma'r sefyllfa erchyll, anodd wynebon ni'r llynedd wedi rhoi mwy o oleuni ar hynny nag erioed o'r blaen."
Dyna eiriau'r ddarlledwraig Nicky John, mam Emi sydd yn ddwy oed, a gafodd ddiagnosis o ganser ar yr arennau yn 13 mis oed.
Mae Nicky yn byw gyda'i gŵr Gwion a'u plant, Sam sydd yn saith oed, ac Emi, yng Nghaernarfon ac yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Sgorio.
Yn 10 mis oed, fe gafodd Emi haint dŵr ac o'r herwydd, bu'n rhaid iddi dreulio ychydig o ddyddiau yn yr ysbyty, a gan ei bod mor ifanc, cafodd sgan arall.
Ymhen tri mis, ar 16 Mawrth, fe gafodd Emi apwyntiad arall gyda meddygon.
Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, derbyniodd Nicky alwad ffôn gan y meddyg teulu yn gofyn iddynt ddychwelyd i Ward Dewi yn Ysbyty Gwynedd "ar unwaith".
"Dwi yn cofio ei lais o'n deud fwy nag unwaith 'dyw ei kidneys hi ddim yn normal'," meddai Nicky.
Aeth Nicky a Gwion yn ôl i Ward Dewi ac fe wnaeth y ddau dderbyn y newyddion fod gan Emi diwmorau ar yr arennau.
"Dwi jyst yn cofio hi'n dweud chemotherapy, radiotherapy, llawdriniaeth...jyst y geiria' ma'n mynd o gwmpas."
Aeth y teulu yn syth i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl er mwyn i Emi gael sgan MRI a CT ac ar y dydd Llun canlynol, daeth cadarnhad fod y meddygon wedi darganfod tiwmorau o'r enw Wilms ar yr arennau.
"Dros nos, ma' bywyd yn newid o fod yn deulu bach hapus gyda'r un cwynion ag unrhyw deulu arall a wedyn mwyaf sydyn, ti'n sylweddoli bo' ti mewn sefyllfa lle ma' petha'n mynd i newid dros nos," meddai Nicky.

Yn 13 mis oed ar y pryd, cafodd central line, sef gwifren fach, ei gosod yng nghorff Emi er mwyn rhoi'r chemotherapy iddi.
Dyna ddechrau ar 20 sesiwn hir o chemotherapy i Emi.
Awr yn unig wedi i Emi dderbyn ei sesiwn gyntaf, fe wnaeth gymryd pedwar cam am y tro cyntaf yn ei bywyd.
"Ma' hi dal wedi bod yn fabi yn gwneud y pethau cynta' 'ma i gyd, ond ma' hi hefyd wedi gorfod gwneud o mewn sefyllfa lot anoddach na'r rhan fwyaf. Dyna sydd 'di synnu ni fwyaf fel teulu ydy pa mor gryf a ma' hi dal i neud yr holl betha' fyswn i'n gobeithio fysa plentyn ei hoed hi'n ei wneud," meddai Nicky.
Mae'r cyfnod diwethaf wedi bod yn gyfnod heriol ac ansicr iawn i deulu Emi.
"Ma'i 'di bod yn flwyddyn mor anodd, mor heriol a weithia hyd yn oed rwan, dwi'n edrych yn ôl a ma'n teimlo fel bo' fi'n siarad am fywyd rywun arall achos wrth reswm, does na'r un ohona ni byth yn dychmygu bod mewn sefyllfa lle 'dan ni'n mynd drwy rwbath mor erchyll... hunllef i bob rhiant," meddai Nicky wrth Newyddion S4C.
Cafodd Emi 12 sesiwn o "chemotherapy intense" cyn iddi gael llawdriniaeth ac ar ôl hynny, roedd yn derbyn chemotherapy unwaith y mis tan fis Mawrth eleni.

Ym mis Ebrill, derbyniodd Emi a'r teulu y newyddion swreal fod y driniaeth ar ben.
Dywedodd Nicky: "Ma' hi newydd gael tynnu'r portacath allan rwan sy'n golygu dim mwy o driniaeth sydd yn rwbath o'n i'm yn meiddio breuddwydio am ddeud.
"O'n i jyst 'paid a meddwl o jyst rhag ofn' ond gafodd hi dynnu'r portacath dydd Mawrth dwytha a ma'r ffaith bo' ni wedi cyrradd y pwynt yna jyst yn ryddhad enfawr, ond hefyd yn bwynt lle ella na'i adal fy hun gymryd beth sydd wedi digwydd i fewn 'chydig bach fwy.
"Ma'r cyfnod 'na o adlewyrchu ag edrych yn ôl a jyst sylweddoli pa mor anodd mae o wedi bod a fyswn i byth byth isio mynd drwy ddim byd fel hyn eto."
Er mor anodd ydy siarad am ganser, mae hi mor bwysig gwneud hynny yn ôl Nicky.
"Treulio cyfnoda' yn y capel yn Alder Hey, pan ma' hi wedi bod yn sâl neu mynd mewn am driniaeth neu sgan, a ma' 'na fwrdd yna lle ti'n gallu 'sgwennu nodyn neu weddi neu amser i feddwl.
"Dyna o'n i isio, o'n i jyst yn gofyn 'plis plis bod hi'n cael ei gwella a byw bywyd plentyn normal a chael bywyd normal ac iach, achos oedd 'na gyfnod lle do'n i ddim yn gwybod os oedd hynny yn mynd i fod yn bosib.
"Dyna ydy'r calpol 'na mewn ffordd...bo' fi jyst yn gallu ei thrin hi fel plentyn arall a bo' ni wedi cyrradd y pwynt yna, ma' hwnna mor fawr."

Roedd Nicky yn awyddus i ddangos diolch a gwerthfawrogiad y teulu am y gofal y gwnaeth Emi ei dderbyn, ac ers mis Medi y llynedd, mae hi wedi casglu bron i £8,000 at elusennau sydd wedi eu helpu.
Mae'r rhain yn cynnwys Young Lives vs Cancer, Ward 3B yn Ysbyty Alder Hey lle y cafodd Emi ei thriniaeth ac Ward Dewi yn Ysbyty Gwynedd.
"O'dd o'n andros o bwysig achos oedda ni isio cofnodi pa mor allweddol a pha mor hanfodol ma' gofal rei o'r elusenna 'ma a'r sefydliada 'ma wedi cefnogi ni yn ystod y broses. Hebddyn nhw, dwi ddim yn siwr iawn lle fysa ni fel teulu neu yn sicr sut fysa ni wedi dod drwyddi," meddai Nicky.
Er mor anodd ydy siarad am ganser, mae hi mor bwysig gwneud hynny yn ôl Nicky.
"Mae o'n anodd i drafod, mae o'n anodd i weld, ond wedi byw hynny rwan, dwi'n sylweddoli mae o'n bwysig i allu ei drafod o'n agored," meddai.
"Dio ddim yn neis, ond i'r rheiny sydd yn mynd drwy'r broses, dwi'n meddwl bod o'n bwysig bod genna nhw rhywle i fynd os ydyn nhw isio neu rwla i droi ata fo i allu trafod, a dyna pam ma'r gwaith ma'r elusenna fel Young Lives vs Cancer neu Joshua Tree - ma'r elusenna bach 'na allan yna, os fedrwch chi gefnogi nhw, plis gwnewch hynny achos ma'r gwaith ma'n nhw'n neud yn arbennig."

Mae'r cyfnod anodd diweddar wedi newid perspectif Nicky ar fywyd.
"Be' dwi wedi sylweddoli rwan ydy be' ydy cael rywbeth i boeni amdana fo o ddifrif a hefyd pwysigrwydd o jyst allu gweithio efo beth sydd o dy flaen di, mynd o ddydd i ddydd a pheidio poeni am bethau sydd yn bell i ffwrdd neu 'falle sydd ddim yn mynd i ddigwydd o gwbl," meddai.
Er mor gyffrous ydy edrych ymlaen at y dyfodol bellach, mae hi hefyd yn sefyllfa rhyfedd i'r teulu.
"I feddwl bo' ni wedi cyrraedd y pwynt lle 'dan ni yn gallu meddwl am y dyfodol 'chydig bach achos 'dan ni wedi treulio mor hir ddim yn gallu gwneud hynny a ma' hwnna wedyn yn dod yn rhan o dy ffordd o wneud petha bron iawn.
"Yn fwy na dim dwi'n meddwl, jyst meddwl geith Sam ag Emi gobeithio gyfle ar blentyndod arferol a chyfle i fwynhau eu hunain fel ma' bob plentyn saith oed a dwy oed i fod i wneud a ma' gallu deud hynny a ffeindio'n hunain yn y sefyllfa yna - mae o'n teimlo fel gwyrth o'i gymharu efo lle oeddan ni a 'dan ni jyst mor ddiolchgar amdana fo."