Cymeradwyo cynllun ar gyfer safloedd 'Arosfan' ar gyfer cartrefi modur yng Ngwynedd

Mae cynllun wedi ei gymeradwyo ar gyfer treialu safleoedd i gartrefi modur sydd am aros yng Ngwynedd dros nos.
Bydd y cynllun ‘Arosfan’ yn cynnig pedwar safle pwrpasol i gartrefi modur aros dros nos, gan efelychu yr ‘aires’ sy’n gyffredin ar y cyfandir.
Disgwylir y bydd y safleoedd ar agor yn barod ar gyfer haf eleni, a bydd gwaith paratoi angenrheidiol yn bwrw yn ei flaen dros yr wythnosau nesaf.
Y pedwar safle newydd fydd:
- Maes parcio Doc Fictoria (cyn safle Shell) yng Nghaernarfon
- Y Glyn yn Llanberis
- Maes parcio’r Maes yng Nghricieth
- Cei’r Gogledd ym Mhwllheli
Ni fydd gweithgareddau sy’n gysylltiedig â meysydd gwersylla traddodiadol yn cael eu caniatáu, megis tanau gwersyll a barbeciws.
I gyd-fynd gyda’r safleoedd Arosfan, mae’r cyngor yn mynd i atal cartrefi modur rhag parcio dros nos mewn cilfannau mewn ardaloedd “sydd wedi gweld enghreifftiau o barcio a gwersylla anghyfrifol” dros y blynyddoedd diwethaf.
Bwriad y Cyngor yw cyflwyno’r gorchmynion yma ar:
- Yr A496 ar y ffordd i mewn i’r Bermo
- Yr A497 ger Cricieth
- Ardal Y Foryd ger Caernarfon
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ddatblygu’r Economi ei fod yn “gam pwysig”.
Bydd yn “datblygu sector twristiaeth gynaliadwy sy’n parchu cymunedau Gwynedd,” meddai.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydan ni wedi gweld llawer mwy o gartrefi modur yn ymweld a’n hardaloedd, ac mae’n naturiol fod ymwelwyr am fwynhau yr hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig.
“Mae’r lleoliadau ar gyfer yr ‘Aros-fannau’ wedi eu lleoli o fewn pellter cerdded i drefi a chyrchfannau allweddol yma yng Ngwynedd, ac yn cynnig arhosiad uchafswm o 48 awr.
“Y bwriad ydi annog defnydd o gysylltiadau trafnidiaeth ac isadeiledd lleol yn ogystal â sicrhau nad yw busnesau lleol yn colli allan wrth i bobl ddod i fwynhau’r profiad twristiaeth unigryw sydd gan Wynedd i’w gynnig.”
Y cynllun
Bydd pob un o’r safleoedd Arosfan yn cynnig lle i hyd at naw o gartrefi modur a fydd yn talu ffi i barcio am uchafswm o 48-awr.
Byddant yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer dŵr ffres, dŵr gwastraff cemegol, ailgylchu a sbwriel cyffredinol.
Dywedodd y cyngor y cynllun cyfathrebu yn cael ei weithredu dros y misoedd nesaf i gynnwys ymgyrchoedd ar-lein yn atgoffa ymwelwyr i wersylla yn gyfreithlon a chefnogi busnesau drwy ddefnyddio meysydd gwersylla lleol.
Bydd negeseuon amlwg hefyd yn cael eu gosod o fewn y safleoedd Arosfan i sicrhau fod rheoliadau safle yn cael eu dilyn.
Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Rydw i’n croesawu’r ffaith fod y cynlluniau i dreialu’r safleoedd Arosfan yn bwrw ymlaen – mae’n cynnig cyfle i ni wella rheolaeth o gartrefi modur yma yng Ngwynedd.
“Trwy dreialu’r safleoedd Aros-fan cychwynnol yma, bydd modd i fonitro sut mae’r datblygiad yn gweithio ac ystyried os oes lle i wella ac addasu os ydym am weld rhagor o fannau tebyg yn cael eu sefydlu.
“Yn ogystal a’r safleoedd Arosfan, mae’n dda gweld fod gorchmynion penodol newydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o ymdrech ehangach i fynd i’r afael â gwersylla anghyfreithlon dros nos mewn mannau problemus penodol wedi bod yn amlwg.”