Rygbi: Dan Lydiate yn dychwelyd i ranbarth y Dreigiau

Mae Dan Lydiate wedi ail-ymuno gyda rhanbarth y Dreigiau unwaith eto.
Fe wnaeth y blaenasgellwr gyhoeddi ym mis Mawrth ei fod yn gadael y Gweilch, ar ôl bod yno ers 2014.
Cyn hynny roedd wedi chwarae dros 100 o gemau i'r Dreigiau, lle y bydd yn chwarae ei rygbi y tymor nesaf.
Mae Lydiate yn edrych ymlaen at fod yn ôl yng Nghasnewydd a chreu mwy o atgofion gyda'r clwb, meddai.
"Mae'n wych bod yn ôl. Dwi hefo llawer o atgofion melys yma a dwi'n benderfynol i ychwanegu atynt.
"Mae llawer o chwaraewyr ifanc a thalentog gyda'r Dreigiau, a nawr dwi wedi dychwelyd dwi'n gobeithio y gallaf ychwanegu bach o brofiad, chwarae fy rhan a helpu'r tîm ar eu taith.
"Dwi'n edrych ymlaen at gychwyn. Nid oes torf well na'r dorf yn Rodney Parade pan mae'n orlawn a dwi methu aros i gynrychioli'r clwb eto."
Cafodd Lydiate ei gynnwys yng ngharfan 54 dyn Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc ym mis Medi.
Mae wedi cynrychioli ei wlad 69 o weithiau ac mae wedi sgorio tri chais.
Llun: Asiantaeth Huw Evans