Newyddion S4C

Angen datganoli Ystâd y Goron medd Liz Saville Roberts

09/05/2023
Liz Saville Roberts

Dylai Llywodraeth Cymru gael rheolaeth dros eiddo’r Goron, er mwyn ysgogi ffyniant, meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

Dywedodd Liz Saville Roberts y gallai datganoli rheolaeth dros eiddo Ystâd y Goron yng Nghymru helpu i roi diwedd ar ddiwylliant o 'ymbilio', a rhoi mwy o lais i Gymru dros benderfyniadau ariannol.

Awgrymodd hefyd y byddai rheolaeth o'r fath yn gallu cael ei defnyddio i ddarparu gwell sicrwydd ym maes ynni, a lleddfu costau byw cynyddol yng Nghymru.

Dywedodd Ms Saville Roberts ei fod yn amser “priodol” i drafod datganoli’r ystâd, gyda'r Brenin Charles newydd gael ei goroni ddydd Sadwrn.

Mae Ystâd y Goron yn gwmni annibynnol a oedd yn berchen i’r Frenhines yn ystod ei theyrnasiad. Mae'r cyllid o’i bortffolio eiddo yn werth £16 biliwn ac yn llifo’n uniongyrchol i’r Trysorlys yn Llundain.

Mae’r Grant Sofran, sy’n talu am ddyletswyddau swyddogol y Brenin fel pennaeth y wladwriaeth, ar hyn o bryd wedi’i osod ar 25% o elw blynyddol Ystad y Goron, gan gynnwys codiad o 10% i dalu am adnewyddu Palas Buckingham.

Gwario ar Gymru

Cafodd taliadau’r ystâd i'r Alban ei ddatganoli yn 2016, ac mae ei refeniw bellach yn mynd i Lywodraeth yr Alban.

Dywedodd Saville Roberts y byddai trefniant tebyg i'r Alban yn rhoi llais uniongyrchol i Gymru ar sut y byddai elw ffermydd gwynt newydd oddi ar arfordir Cymru yn cael ei wario.

“Dylai Ystâd y Goron gael ei datganoli i Gymru oherwydd bod cymaint o botensial bellach, yn enwedig gyda gwynt ar y môr fel ein bod ni, yng Nghymru, yn gallu gwneud yn siŵr nad ymarfer arall i dynnu sylw yn unig yw hwn,” meddai.

Pe bai'r elw yn nwylo Llywodraeth Cymru, awgrymodd yr AS dros etholaeth Dwyfor Meirionnydd y gallai gael ei ddefnyddio i roi gwell sicrwydd ym maes ynni a chostau gwresogi i gartrefi Cymru.

“Un beirniadaeth fawr y mae unrhyw wleidydd Cymreig ar y chwith yn ei wynebu yw ein bod ni bob tro yn gofyn am fwy o arian, ein bod yn gofyn am ddiwygio Fformiwla Barnett," meddai.

“Dwi efo diddordeb mawr yn y mecanweithiau y gallwn cyflwyno i Gymru a fyddai’n caniatáu i ni adeiladu ein heconomi ein hunain yn fwy effeithiol, ac nid i fod yn atodiad.”

'Chwarae rhan'

Wrth siarad cyn penwythnos y coroni, dywedodd Saville Roberts: “Gyda'r argyfwng costau byw a phobl yn cymharu hynny â'r gwariant cyhoeddus enfawr ar y coroni - mae’n gwneud i bobl feddwl ymhle mae'r blaenoriaethau.

“Bydd yna bobl ar ddiwrnod y coroni a fydd yn cael diwrnod bendigedig, byddan nhw'n edrych ymlaen ato, byddan nhw'n ei fwynhau ac rydw i wir yn gobeithio y byddan nhw'n gwneud hynny. Dymunaf y gorau iddynt am hynny.”

Ychwanegodd: “Rydw i eisiau chwarae fy rhan i adeiladu Cymru fel cenedl lle rydyn ni’n sefyll ar ein dwy droed ein hunain, lle rydyn ni’n hyderus o symud i’r dyfodol, lle nad ydyn ni’n gorfod rhoi’r begging bowl allan.

“Dw i’n meddwl bod datganoli Ystâd y Goron, yn teimlo’n deg."

Tra'n Ysgrifennydd Cymru, dywedodd Simon Hart wrth Dŷ’r Cyffredin “nad oedd unrhyw awydd cyhoeddus o gwbl yng Nghymru i ddatganoli Ystâd y Goron”.

Ar y pryd, awgrymodd yr AS Ceidwadol, sydd bellach yn brif chwip y Ceidwadwyr, y byddai datganoli’r ystâd yn “darnio’r farchnad ac yn gohirio datblygiad pellach prosiectau allweddol” yn y sector ynni gwynt ar y môr."

Dywedodd llefarydd ar ran Ystâd y Goron: “Mae Ystâd y Goron yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i reoli tir a gwely’r môr yn gynaliadwy dros yr hir dymor, ac i ddod â buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach i Gymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.