Geraint Thomas yn cwblhau ail gymal y Giro d’Italia yn ddiogel

Mae’r Cymro Geraint Thomas wedi cwblhau ail gymal y Giro d’Italia heb anffawd.
Fe orffennodd Thomas y cymal 202 cilomedr yn ddiogel yn y peleton tu ôl i’r enillydd Jonathan Milan o’r Eidal er mawr foddhad i’r dorf gartref.
Llwyddodd Thomas i osgoi damwain gyda thua pedwar cilomedr i fynd ond dymchwel fu hanes Mark Cavendish.
Mae’r ddamwain yna yn golygu fod Thomas wedi symud i'r chweched safle ar ôl dau gymal, 55 eiliad tu ôl i Remco Evenepoel o Wlad Belg yn y Maglia Rosa.
Fe lwyddodd Stevie Williams o Aberystwyth hefyd i gwblhau’r cymal.
Fe fydd trydydd cymal y ras ddydd Llun dros 216 cilomedr o Vasto i Melfi.
Llun: Twitter/Ineos Grenadiers