Newyddion S4C

Coroni y Brenin Charles III yn Abaty Westminster

Coroni Charles III

Mae y Brenin Charles III wedi cael ei goroni yn Abaty Westminster.

Cafodd ei goroni gyda Choron Sant Edward sy’n cael ei defnyddio ar gyfer seremoni’r coroni yn unig ers yr 13eg ganrif.

Cafodd y Frenhines Camilla ei choroni yn ogystal.

Wrth dyngu llw dywedodd y Brenin ei fod yn “proffesu yn ddiffuant” ei fod yn “Brotestant ffyddlon” ac y byddai yn cynnal deddfau’r Deyrnas Unedig “hyd eithaf fy ngallu yn ôl y gyfraith”.

Plygodd Tywysog Cymru, William, o’i flaen a thyngu llw i’r Brenin Charles wrth iddo eistedd ar yr orsedd.

Roedd y seremoni yn cynnwys yr iaith Gymraeg am y tro cyntaf wrth i Syr Bryn Terfel berfformio y Kyrie gan ganu ‘Arglwydd trugarha’.

Cyflwynwyd Bryn Terfel a digwyddiadau eraill y Coroni i’r gwylwyr gan siaradwr Cymraeg arall – y darlledwr Huw Edwards.

Roedd croes Gymreig hefyd yn arwain gorymdaith y Coroni.

Fe gafodd Croes Cymru ei chreu gan ddefnyddio deunydd Cymreig gan gynnwys arian sydd wedi’i ailgylchu a’i ddarparu gan y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn ogystal â darn o bren a stondin lechi. 

Roedd geiriau o bregeth olaf Dewi Sant wedi'u harysgrifio ar y cefn: “Byddwch lawen. Cadwch y ffydd. Gwnewch y Pethau Bychain.”

Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ymysg yr rheini yn y gynulleidfa er mwyn gwylio seremoni’r coroni.

Nid oedd Llywydd y Senedd, Elin Jones, yno i wylio’r seremoni wedi iddi ddweud bod ei daliadau gweriniaethol yn ei hatal rhag cymryd rhan.

Image
Coroni Charles III

‘Arllwys y glaw’

Roedd glaw trwm wedi amharu ar y dathliadau yn Llundain ac yng Nghymru lle oedd sgrin wedi ei osod ar dir soeglyd Castell Caerdydd ar gyfer yr achlysur.

Roedd llawer o’r gwylwyr wedi dod o tu allan i’r ddinas.

Dywedodd Chloe Fisher, o Wimbledon yn Llundain, a Kasia Slany, o Woking yn Berkshire, eu bod nhw wedi dewis Caerdydd dros Lundain.

Dywedodd Ms Slany: “R’yn ni’n caru Cymru. Rydyn ni’n feicwyr ac rydyn ni wrth ein bodd yn beicio yng Nghymru ac rydyn ni bob amser yn dod yn ôl yma.

“Felly roedden ni’n meddwl - am gyfle gwych i dreulio amser mewn lle rydyn ni’n ei garu, gyda’r gymuned yn gwylio’r coroni.”

Ychwanegodd Ms Fisher: “Roedd hi’n arllwys gyda glaw yn gynharach ond nawr mae wedi clirio rywfaint, felly rydyn ni’n gyffrous i fod yma ac i fod gyda’r Cymry cyfeillgar.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.