Penodi Is-Ganghellor benywaidd cyntaf Prifysgol Cymru a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant

Mae’r Athro Elwen Evans, KC, wedi’i phenodi’n Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Hi fydd arweinydd benywaidd cyntaf y prifysgolion a’r sefydliadau a’u rhagflaenodd.
Bydd yn olynu’r Athro Medwin Hughes, DL, a fydd yn ymddeol ar ôl bod yn y swydd am 23 o flynyddoedd.
Bydd Elwen Evans dechrau yn ei rôl yn Ddarpar Is-Ganghellor ym mis Mehefin gan gymryd yr awenau fel Is-Ganghellor gan yr Athro Hughes ym mis Medi.
Ar hyn o bryd, yr Athro Elwen Evans, KC, yw Dirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe.
Mae ganddi hefyd gyfrifoldeb am yr Iaith a Diwylliant Cymraeg yn y Brifysgol.
Dywedodd yr Athro Evans, “Mae’n anrhydedd mawr i mi gael fy mhenodi i rôl Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
“Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr, myfyrwyr a llywodraethwyr yn y Brifysgol a gyda phartneriaid allanol i sicrhau llwyddiant parhaus y ddau sefydliad uchel eu bri.”
‘Cefnogaeth’
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL yr hoffai longyfarch yr Athro Evans ar ei phenodiad.
Mae hi’n adnabyddus fel arweinydd creadigol a deinamig sydd â hanes amlwg o gyflenwi rhaglenni trawsnewid, newid diwylliannol a datblygu strategol llwyddiannus,” meddai.
“Mae hi’n ymuno â sefydliadau nad ydynt erioed wedi ofni newid. Lles y genedl sydd wrth wraidd taith drawsnewidiol Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
“Bydd yr Is-Ganghellor newydd yn parhau â’r gwaith i sefydlu Prifysgol newydd i Gymru.
“Gallaf ei sicrhau y gall ddibynnu ar gefnogaeth lawn y Prifysgolion wrth iddi ddechrau ar y bennod newydd gyffrous hon yn hanes ein sefydliadau.”