Newyddion S4C

Adam Price 'yn gwybod' am broblemau difrifol o fewn Plaid Cymru yn 2018, meddai cyn-AS

Adam Price 'yn gwybod' am broblemau difrifol o fewn Plaid Cymru yn 2018, meddai cyn-AS

Y Byd yn ei Le 05/05/2023

Roedd arweinydd Plaid Cymru Adam Price "yn gwybod" am broblemau difrifol o fewn y blaid yn ôl yn 2018, meddai cyn-Aelod o Senedd Cymru.

Dywedodd Bethan Sayed, fu'n cynrychioli Plaid Cymru nes 2021, fod rhai cwynion yn dyddio o cyn cyfnod Adam Price wrth y llyw ond ei fod yn gwybod eu bod nhw'n bodoli a dylai fod wedi mynd i'r afael â nhw "o'r cychwyn cyntaf".

Yn hytrach, roedd Adam Price wedi aros "i broblemau bentyrru" yn hytrach na delio â nhw ar unwaith, meddai.

Daw ei sylwadau ar ôl i adroddiad damniol nodi angen i "ddadwenwyno diwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth" o fewn y blaid.

Mae Adam Price wedi ymddiheuro wedi cyhoeddi'r adroddiad adroddiad, wnaeth 82 o argymhellion ar gyfer gwella gweithdrefnau'r blaid.

Wrth gyfeirio at "misogynistiaeth" a "pobl yn cwyno ond ddim yn cael eu clywed" dywedodd Bethan Sayed wrth raglen Y Byd yn ei Le ar S4C: “Roedd Adam yn gwybod eu bod nhw'n bodoli.

“Dylai fod wedi dod i mewn fel arweinydd a dweud 'reit’, o’r cychwyn cyntaf, a sylweddoli beth oedd angen gwneud, yn hytrach nag aros i’r problemau tyrru fyny a bod yn y wasg yn y fath fodd."

Image
newyddion
Mae Bethan Sayed, fu'n cynrychioli Plaid Cymru tan 2021, yn dweud bod Adam Price wedi aros "i broblemau bentyrru" yn hytrach na delio â nhw ar unwaith.

'Cwynion'

Ddydd Mercher fe ddaeth adroddiad i ddiwylliant mewnol y blaid o hyd i enghreifftiau o "aflonyddu rhywiol, bwlio a gwahaniaethu" o fewn y blaid, gan ychwanegu nad oedden nhw'n "achosion unigol".

Dechreuodd grŵp, sy'n cael ei arwain gan gyn-wleidydd y Blaid Nerys Evans, edrych ar gwynion am ddiwylliant mewnol y blaid fis Rhagfyr diwethaf.

Dywedodd yr adroddiad fod "diffyg arweinyddiaeth a llywodraethu ar y cyd ar draws y blaid sydd wedi golygu bod y materion hyn wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf".

'Ymddiheuro'

Mewn ymateb i’r adroddiad, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price: "Rwyf am ymddiheuro i bawb sydd naill ai wedi profi neu wedi gweld ymddygiad annerbyniol o fewn y blaid.

"Nid dyna'r blaid bydden ni'n dyheu i fod. Nid dyna'r gwerthoedd ry'n ni'n arddel. Ond mae'n amlwg bod 'na ddiwylliant wedi datblygu dros gyfnod sydd wedi - yn anffodus - caniatau i'r math yma o ymddygiad fynd rhagddi heb gael ei herio, a dyw hynny ddim yn dderbyniol."

Mae Y Byd yn ei Le ar gael i'w wylio ar S4C bob nos Iau am 21:00, neu gallwch ddal i fyny ar S4C Clic a BBC iPlayer.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.