Newyddion S4C

Dwy flynedd o garchar i ddyn am feithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein

04/05/2023
Emyr Anthony

Mae dyn 59 oed wedi’i ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar am droseddau meithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein.

Ymddangosodd Emyr Anthony, o Abertawe, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau i’w ddedfrydu, ar ôl pledio’n euog yn flaenorol i gyfathrebu’n rhywiol â phlentyn a chwrdd â phlentyn ar ôl meithrin perthynas amhriodol.

Arweiniwyd yr ymgyrch gan Tarian, yr uned troseddau trefniadol rhanbarthol, ynghyd â Heddlu Dyfed Powys.

Clywodd y llys sut y defnyddiodd Anthony lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â phroffil ar-lein unigolyn yr oedd yn credu oedd yn fachgen 14 oed. Ond y person y tu ôl i’r proffil oedd swyddog cudd yn gweithio ar ran uned Tarian.

Mewn sgyrsiau, fe wnaeth Anthony gydnabod ei fod yn siarad â phlentyn cyn disgrifio'n fanwl nifer o weithredoedd rhywiol, cyn trefnu i gwrdd â'r bachgen ar gyfer gweithgaredd rhywiol, gan gadarnhau amser a lleoliad.

Trefnodd Anthony i gwrdd â'r bachgen ifanc yn Cross Hands ym mis Mawrth, ble cafodd ei arestio.

Dywedodd Ditectif Arolygydd Mathew Davies, o Tarian: “Mae hyn yn enghraifft o waith ardderchog ar y cyd rhwng Tarian a Heddlu Dyfed-Powys.

“Ffocws yr ymgyrch oedd targedu troseddwyr niwed uchel, tra'n diogelu ac amddiffyn plant.

“Yn Tarian, mae gennym ni swyddogion arbenigol sy’n gweithio’n ddiflino i amddiffyn plant ar-lein yn ogystal â thargedu’r troseddwyr hynny, fel Anthony.

“Ein blaenoriaeth lwyr yw amddiffyn a chadw plant yn ddiogel yn ein cymunedau.

“Os oes unrhyw un wedi dioddef cam-drin plant yn rhywiol, rwy’n eich annog i roi gwybod i’ch heddlu lleol drwy ffonio 101.

“Byddwn bob amser yn mynd ar drywydd honiadau o gam-drin, ni waeth pryd y digwyddodd hynny.

"Gall dioddefwyr siarad yn gyfrinachol â swyddogion profiadol a gallwn hefyd eu helpu i gael mynediad at ystod o wasanaethau cymorth eraill.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.