
'Maen nhw'n symud i ffwrdd yn gyflym': Galw am gyfathrebu gwell gyda phobl fyddar

Mae canlyniadau arolwg barn newydd yn awgrymu bod un o bob 10 aelod o’r cyhoedd yn osgoi cyfathrebu â pherson byddar gan nad ydynt yn gwybod sut i wneud hynny.
Mae’r arolwg a gynhaliwyd ar ran yr elusen colli clyw RNID, hefyd yn awgrymu na fyddai 59% o bobl yn teimlo’n hyderus yn cyfathrebu â rhywun sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw.
Mae Safyan Iqbal o Gaerdydd yn fyddar ers ei fod yn naw mis oed. Mae’n defnyddio mewnblaniad cochlear er mwyn helpu i glywed ac yn cyfathrebu drwy iaith arwyddo.
Erbyn hyn mae Safyan yn 26 oed ac mae'n dweud ei fod wedi cael salw profiad lle mae pobl yn ‘mynd i banig’ wrth sgwrsio gydag ef.
“Mae hyn yn digwydd bob dydd non stop,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Mae pobl yn dechrau mynd i banig ar ôl eiliadau i mewn i'r sgwrs ac yn dechrau gadael yn araf. Unwaith y byddant wedi mynd, dydy’n nhw ddim yn dod nôl i siarad â mi eto.”
Yn ôl Safyan mae pobl yn llawer fwy “cyfforddus” yn trio sgwrsio gyda rhywun sy’n siarad ieithoedd gwahanol.
“Ond gyda fi, person byddar sy'n arwyddo, maen nhw'n symud i ffwrdd yn gyflym.”

Dywedodd bron i hanner, (48%) o oedolion yn y DU a arolygwyd gan YouGov nad ydynt yn gwybod sut i gyfathrebu â rhywun sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw.
Yn ôl Safyan, mae'n aml yn gofyn i bobl siarad yn fwy clir neu yn fwy uchel pan nad yw'n gallu clywed sgwrs yn iawn.
"Er enghraifft, pan nad ydw i'n deall, dwi'n gofyn iddynt ailadrodd a pan maen nhw’n ateb yn dweud 'paid â phoeni neu dywedaf wrthych yn nes ymlaen' mae'n gwneud i fi deimlo yn llai pwysig.
"Mae'n arwain i fi deimlo yn unig, wedi fy ngadael allan, ac yn rhwystredig."
Mae elusen RNID wedi lansio ymgyrch newydd i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod i annog pobl i gyfathrebu â phobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw.
'Stigma'
Dywedodd Teri Devine, cyfarwyddwr cynnwys RNID: “Nid yw’r canfyddiadau hyn yn dangos yn union faint o stigma a chamddealltwriaeth bob dydd y mae’r 12 miliwn o bobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw yn y DU yn eu hwynebu mewn bywyd bob dydd.
“Rydym am annog pawb i ymarfer ein cynghorion cyfathrebu syml yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Byddardod fel bod pawb yn cael eu cynnwys mewn sgwrs.
“Er bod y mwyafrif o bobl yn dweud nad oes ganddyn nhw brofiad o siarad â phobl fyddar a phobl â nam ar eu clyw, mae colli clyw yn effeithio ar un o bob pump o oedolion, felly mae’n debygol bod rhywun yn eich teulu, eich grŵp cyfeillgarwch neu yn y gwaith.
“Rydym am agor sgyrsiau am fyddardod a cholled clyw yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Byddardod, adeiladu hyder y cyhoedd wrth gyfathrebu, a thynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael. Y peth pwysicaf yw gofyn i rywun sut y gallwch chi helpu.”
Helpu
Mae'r elusen yn annog y cyhoedd i feddwl am sawl ffactor i helpu i gyfathrebu â phobl â nam ar eu clyw. Mae hyn yn cynnwys:
- Amgylchedd – gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd yn briodol drwy leihau sŵn cefndir neu symud i ardal dawelach tra’n gwneud yn siŵr bod yr ystafell wedi’i goleuo’n dda ar gyfer rhywun sy’n darllen gwefusau.
- Sylw – defnyddiwch ystumiau syml fel pwyntio, chwifio neu dap ysgafn ar yr ysgwydd i dynnu sylw rhywun, wynebwch y person rydych chi’n siarad ag ef fel y gall ddarllen gwefusau, a siarad â nhw, nid eu cyfieithydd neu unrhyw un arall gyda nhw.
- Ailadrodd ac aralleirio os nad yw rhywun yn deall. Os nad yw hyn yn gweithio, gallech ei ysgrifennu, neu siarad â ffrind neu berthynas os bydd yn gofyn i chi wneud hynny.