Awduron Hollywood yn galw am beidio â defnyddio AI i greu scriptiau

Mae awduron ffilm a theledu sy’n streicio yn Hollywood wedi galw ar stiwdios yno i beidio â defnyddio AI er mwyn creu sgriptiau.
Fe aeth dros 10,000 o awduron sgriptiau ffilm a theledu Hollywood yn mynd ar streic ddydd Mawrth.
Penderfynodd Urdd Ysgrifenwyr America (WGA) alw eu streic gyntaf ers 15 mlynedd ar ôl methu a sicrhau tâl uwch i’w haelodau.
Ond maen nhw hefyd eisiau sicrhau cytundeb gan stiwdios na fydd technoleg deallusrwydd artiffisial yn cymryd eu swyddi oddi arnyn nhw.
Mae’r stiwdios wedi gwrthod yr awgrym gan ddweud fod rhaid iddyn nhw fod yn agored i ddefnyddio technolegau newydd.
Ond dywedodd yr WGA eu bod nhw’n pryderu y byddwn nhw’n cael y gwaith o gywiro sgriptiau gwallus wedi eu creu gan AI.
“Dydyn ni ddim eisiau i’n gwaith ni gael ei fwydo i mewn i’r AI a dydyn ni ddim eisiau bod yn trwsio eu drafftiau anniben nhw,” meddai John August o’r WGA wrth Reuters.
Ychwanegodd Warren Leight, cynhyrchydd y gyfres Law & Order: SVU y bydd AI yn creu “llurgunio” sgriptiau.
“Mae yna beryg y bydd stiwdios yn defnyddio AI er mwyn creu drafft cyntaf wedyn pobol go iawn i greu ail ddrafft am lai o arian,” meddai. “Rydyn ni eisiau osgoi hynny.”
Mae’r WGA yn cynrychioli 11,500 o awduron sy’n byw yn bennaf yn Efrog Newydd a Los Angeles.
Dywedodd Cynghrair Cynhyrchwyr Ffilm a Theledu America (AMPTP) eu bod nhw wedi cynnig codiad cyflog “hael” i awduron ond wedi methu a dod i gytundeb.