Menywod Cymru yn cael gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yng Nghynghrair y Cenhedloedd

Bydd Cymru yn wynebu'r Almaen, Denmarc a Gwlad yr Iâ yng nghystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd.
Dyma'r tro cyntaf i'r gystadleuaeth gael ei gynnal ar gyfer menywod Ewrop.
Cafodd y grwpiau eu penderfynu prynhawn ddydd Mawrth mewn seremoni yn Y Swistir, lle bydd cystadleuaeth Ewros y merched yn cael eu cynnal yn 2025.
Roedd Cymru mewn pot 4 yn gynghrair A, y gynghrair uchaf o ran safon.
Fe fydd Cymru yn herio'r Almaen, Denmarc a Gwlad yr Iâ yn y gemau a fydd yn cael eu chwarae rhwng mis Medi a Rhagfyr eleni.
Pe bai Cymru yn ennill y grŵp, byddant yn chwarae yn y rowndiau terfynol ym mis Chwefror 2024.