CPD Wrecsam: Ryan Reynolds a Rob McElhenney am ymuno gyda gorymdaith fws agored

Bydd Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn ymuno gyda gorymdaith fws agored a fydd yn teithio o gwmpas canol Wrecsam nos Fawrth i ddathlu dyrchafiad y clwb pêl-droed.
Mae diswgyl i filoedd o gefnogwyr ymuno â’r orymdaith er mwyn dathlu llwyddiannau'r timau dynion a merched sydd wedi ennill y gynghrair eleni.
Mae'r clwb wedi gwahodd cefnogwyr i lenwi'r strydoedd ac ymuno â’r dathliadau sydd yn cychwyn am 18:15.
Bydd disgwyl i'r orymdaith gymryd tuag awr ac fe fydd yn dechrau a gorffen gerllaw y Cae Ras.
Dyrchafiad
Enillodd dynion Wrecsam y Gynghrair Genedlaethol ychydig dros wythnos yn ôl yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Boreham Wood.
Dyma’r tro cyntaf ers pymtheg mlynedd i dîm y dynion ennill dyrchafiad i'r Gynghrair Bêl-droed.
Roedd merched y clwb wedi curo Llansawel i sicrhau eu bod yn codi i'r Genero Adran Premier y tymor nesaf.
Mewn cyfweliad gydag S4C, mae perchnogion enwog y clwb, Rob McElhenney a Ryan Reynolds wedi dweud mai cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr yw’r nod i Wrecsam, hyd yn oed os yw’n cymryd 20 mlynedd i wneud hynny.
Dywedodd Ryan Reynolds ei fod yn "byw mewn cyflwr cyson o orfoledd" ers i Wrecsam ennill y gynghrair.
"Fydda i byth yr un fath eto," meddai. "Dydw i ddim yn gallu rhoi'r gorau i wylio'r gêm - mae fel dibyniaeth."
Ychwanegodd: "Roedd yn un o brofiadau gorau fy mywyd, a rydw i'n ymwybodol fod gen i blant."