
Car ar dân yn cau'r A55 tua'r dwyrain
Car ar dân yn cau'r A55 tua'r dwyrain

Cafodd yr A55 ei chau tua'r dwyrain am gyfnod ddydd Llun wedi i gar fynd ar dân.
Fe aeth y car ar dân ar y ffordd toc cyn 17.15 ddydd Llun.
Digwyddodd y tân o dan Pont yr Enfys, Hen Golwyn, gan atal traffic rhwng cyffordd 22 a 23.
Ail-agorodd y ddwy lôn am 6.40pm.
Roedd fflamau a mwg trwchus i’w gweld ar ôl i’r cerbyd pick-up glas, a oedd yn towio carafan ddod i stop ar ochr y ffordd.
Dywedodd llygaid dystion fod ffrwydriadau i’w clywed wrth i’r fflamau gynyddu.
Ar ôl dod a’r traffig i stop, daeth diffoddwyr tân i ddiffodd y fflamau.
Agorodd un o'r lonydd ar y ffordd tua'r dwyrain cyn 6pm, ond roedd tagfeydd hir ar y ffordd tua’r dwyrain yn sgil y digwyddiad.
Dywedodd y gwasanaethau brys wrth Newyddion S4C eu bod nhw'n ymateb i'r hyn ddigwyddodd a nad oedd rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.



Lluniau gan Tomos Hughes / Newyddion S4C.
Rhagor i ddilyn...