Babi pum mis oed yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad gan gi

Mae babi pum mis oed yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad gan gi yn Sir Caerffili.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Y Cilgaint, Penyrheol am tua 09:10 fore dydd Sadwrn.
Dywed Heddlu Gwent nad yw'r babi mewn cyflwr sydd yn peryglu ei fywyd ac mae'r ci bellach yn ngofal swyddogion y llu.
Nid oedd unrhyw anifail arall yn rhan o'r digwyddiad ac nid yw manylion am y math o gi oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad wedi eu datgelu.
Dywedodd y Prif Arolygydd Laura Bartley o Heddlu Gwent: "Bydd swyddogion yn parhau i wneud ymholiadau pellach ar yr adeg yma ac fe fyddant yn parhau yn y lleoliad wrth i'r ymchwiliad barhau.
"Mae'n bosib y byddwch yn gweld gweithgaredd barhaus gan yr heddlu yng Nghaerffili fel rhan o'r gwaith hwn, ond peidiwch a chael eich dychryn.
"Os oes ganddo chi bryderon neu wybodaeth yna cysylltwch gyda ni os gwelwch yn da."