'Sai’n mynd i adael i ddwy lythyren fy niffinio': Cyflwynydd yn rhedeg marathon i godi ymwybyddiaeth o MS
'Sai’n mynd i adael i ddwy lythyren fy niffinio': Cyflwynydd yn rhedeg marathon i godi ymwybyddiaeth o MS

Gydag Wythnos Ymwybyddiaeth MS yn dod i ben ddydd Sul, mae’r cyflwynydd Daf Wyn wedi siarad â Newyddion S4C am ei brofiad o redeg marathon Llundain eleni, ag yntau'n byw gyda’r cyflwr.
Yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd Prynhawn Da a Heno, ddydd Sul fe fydd yn ddwy flynedd ers iddo dderbyn diagnosis o MS yn yr ysbyty yng Nghaerdydd.
Fel cyflwr sy’n para am oes mae MS, neu Sglerosis Ymledol yn effeithio ar yr ymennydd a’r cefn gan achosi problemau i unigolion wrth reoleiddio symudiad y corff, balans a'r gallu i weld.
Yn sgil ei ddiagnosis, roedd Daf yn benderfynnol o “fyw bywyd” y gorau ag y gallai ac roedd rhedeg marathon Llundain yn un modd o wireddu’r nod yma.
Wrth siarad â Newyddion S4C fe ddywedodd: “Pan ges i’r diagnosis a’r triniaethau ar gyfer MS a cael gwybod bod ishe fi jyst byw fy mywyd i gymaint fi’n galler, nes i ddweud wrth fy hunan 'diawch fi moyn neud marathon de' – ddim i brofi ddim i neb arall ond i brofi rhywbeth i fi.
“Sai’n mynd i adael i ddwy lythyren ddiffinio ym mywyd i,” meddai.
“Wrth gwrs, mae rhaid i fi bod yn ofalus, mae rhaid i fi gymryd popeth mewn i ystyriaeth. Ond sai’n dihuno pob bore erbyn hyn a meddwl ‘O, mae ‘da fi MS.’”
Ymroddiad
Fel rhedwr noddedig Cymdeithas MS Cymru, bu'n rhaid i Daf godi isafswm o £2,000 i sicrahu ei le yn Llundain.
Llwyddodd i fwy na threblu’r targed yma wrth godi £7,000 o bunnoedd ar gyfer y marathon.
Ond fel rhan o ymgyrch codi arian ehangach ers Medi y llynedd – oedd yn cynnwys cyngerdd gyda sêr y byd cerddorol Cymru megis Dafydd Iwan ac Al Lewis – mae Daf wedi codi bron i £19,000 ar gyfer ymwybyddiaeth MS erbyn hyn.
Ei farn yw y byddai’r arian yma’n cyfrannu tuag at gymorth i bobl sydd gyda MS, yn ogystal ag ymchwil feddygol bellach.
Esboniodd: “Mae MS yn gyflwr fydd ‘da fi weddill fy oes. Does dim ‘cure’ fel maen nhw’n galw e hyd yma.
“Ond er hynny, mae y datblygiadau ym myd meddygyniaethau a phethau fel ‘ny yn hollol wahanol i be’ welwn nhw ugain mlynedd yn ôl.
“Allai m’ond ag edrych yn obeithiol i’r ugain mlynedd nesa’ a meddwl 'diawch, falle daw nhw i ben ar roi stop arno fe' neu byw hyd yn oed yn well i bobl sydd ‘da MS."
Yn sgil hynny oll, mae Daf yn gobeithio dangos i bobl sydd mewn sefyllfa debyg fod angen gwneud “be chi’n galler tra bod chi’n galler – os allai ddangos hwnna i bobol, fyddwn i’n hapus iawn,” meddai.