Carfan rygbi menywod Cymru yn sicrhau buddugoliaeth yn erbyn yr Eidal

29/04/2023
Carfan rygbi menywod Cymru

Mae carfan rygbi menywod Cymru wedi curo’r Eidal o 36-10 yn eu gêm olaf o'r Chwe Gwlad ddydd Sadwrn. 

Dyma'r tro cyntaf i’r garfan guro tair gêm yn y bencampwriaeth ers 2009, a bellach mae'r crysau cochion wedi codi i’r chweched safle rhestr detholion Rygbi’r Byd, sef eu safle uchaf erioed. 

Roedd angen i’r tîm ennill o un pwynt yn unig i sicrhau eu lle yn hanner uchaf y tabl ac fe lwyddodd y menywod i wneud hynny bnawn Sadwrn yn Stadiwm Sergio Lanfranchi yn Parma. 

Yn dilyn eu buddugoliaeth, bydd carfan rygbi menywod Cymru nawr yn cystadlu yn lefel uchaf twrnamaint newydd y WXV - gan chwarae yn erbyn timau gorau'r byd. 

Nid oedd yr Eidal wedi colli yn erbyn Cymru ers 2017 ac roedd yr hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham yn barod i ddisgwyl "gêm anodd.” 

Fe fydd Cymru nawr yn chwarae yn erbyn timau Cyfres Pedwar y Môr Tawel, sef Seland Newydd, Awstralia a Chanada a 'r UDA yn Hydref 2023. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.