Newyddion S4C

Dadorchuddio Coron a Chadair Eisteddfod yr Urdd 2023

29/04/2023
Coron a chadair Eisteddfod yr Urdd 2023

Mae Coron a Chadair Eisteddfod yr Urdd 2023, sydd yn cael ei chynnal yn Sir Gaerfyrddin eleni, wedi cael eu dadorchuddio mewn seremoni yn Llanelli nos Wener. 

Cafodd y gadair bren, sydd wedi’i haddurno gyda phatrwm tartan gwyrdd a choch, ei chreu gan Bedwyn Rees o Gynwyl Elfed. 

Eleni, thema cystadleuaeth y Gadair yw ‘Cynefin’ gyda'r trefnwyr yn annog Eisteddfodwyr i ystyried hanes, diwylliant ac amgylchedd ein gwlad wrth farddoni. 

Mae’r Goron yn gymysgedd o fetelau gwahanol ac mae wedi cael ei chreu ar y cyd gan Luned Hughes, Richard Davies ac Endaf Price. 

Bydd Eisteddfod yr Urdd 2023 yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri am y tro cyntaf eleni, a hynny rhwng 29 Mai a 3 Mehefin. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.